<p>Uber yng Nghymru</p>

Part of 4. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 27 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:22, 27 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yn eu hardaloedd lleol, ac fel rhan o’r system drafnidiaeth gyhoeddus, mae’n rhaid i ddiogelwch teithwyr fod o’r pwys mwyaf. Ni fyddai’n briodol gwneud sylwadau ar yr achos hwn, ond byddwn yn cadw llygad ar unrhyw ddatblygiadau er mwyn bod yn barod ar gyfer y broses o drosglwyddo’r cyfrifoldeb am drwyddedu, a ragwelir yn gynnar yn 2018.