Part of the debate – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 27 Medi 2017.
Rwy’n ddiolchgar iddo am ildio. Gwn ein bod yn trafod adroddiad y mae eisoes wedi’i gynhyrchu, ond roeddwn hefyd yn ymwybodol o’r dystiolaeth a gymerwyd yn y pwyllgor y bore yma. Mae’n ymddangos na phenderfynwyd eto a fydd pwerau’r fasnachfraint wedi eu datganoli mewn pryd i’r cytundeb gael ei wneud. A yw’n fodlon fod cytundeb asiantaeth yn ddigonol ar gyfer Llywodraeth Cymru a threthdalwyr Cymru, i sicrhau bod trefniant y fasnachfraint yn ddigon cryf?