Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 27 Medi 2017.
Diolch i chi, Llywydd dros dro. A gaf fi ddiolch i’r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma? I dynnu sylw at ychydig o bwyntiau fy hun, gwnaeth Jenny Rathbone rai pwyntiau am gynnwys y cyhoedd, ac roedd y pwyllgor yn cytuno’n bendant fod proses y ddeialog gystadleuol yn ei gwneud hi’n anodd i’r cyhoedd ymgysylltu a chyfranogi. Cafodd hyn ei nodi yn sicr. Rydym yn falch fod y Llywodraeth wedi derbyn ein hargymhelliad i gynhyrchu manyleb hawdd i’w defnyddio, ond mae’r pryderon ynghylch cyfranogiad y cyhoedd ym mhroses y ddeialog gystadleuol yn parhau, ac mae hynny, efallai, yn wers i’w dysgu.
Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet—rwy’n diolch iddo am ei sylwadau fy mod yn deg ac yn wrthrychol fel Cadeirydd y pwyllgor. Nid wyf yn bwriadu cael fy nhynnu i mewn i faterion gwleidyddiaeth plaid yn fy nghyfraniad y prynhawn yma, ond buaswn yn cytuno fy mod yn siomedig, fel y mae eraill yn siomedig y prynhawn yma, ynglŷn â’r oedi a fu yn y broses o ddatganoli pwerau, ac rwy’n gobeithio y bydd y materion hynny’n cael eu datrys.
Cododd Hefin David rai pwyntiau ynglŷn â thaliadau mynediad i’r trac, a buaswn yn cytuno â Hefin i ryw raddau—gyda’i farn fod rhywbeth wedi newid. Fy marn i yw bod rhywfaint o wybodaeth ar goll nad yw ein pwyllgor yn ymwybodol ohoni. Mae bylchau yn y stori, ac mae’r rheini eto i’w datgelu, ac mae hwnnw, o bosibl, yn waith i ni ei wneud yn y dyfodol. Yn wir, rwy’n falch iawn y bydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn cynnal ymchwiliad, a allai’n hawdd lenwi rhai o’r bylchau rydym wedi’u crybwyll heddiw. Rwy’n gobeithio y gall ein pwyllgor chwarae rhywfaint o ran yn y gwaith hwnnw mewn rhyw ffordd hefyd, a byddaf yn sicr yn ysgrifennu llythyrau mewn perthynas â gwaith ar draws y ddau bwyllgor.
Dylwn ddweud fy mod i hefyd wedi ysgrifennu fel Cadeirydd y pwyllgor at yr Ysgrifennydd Gwladol, Chris Grayling, i ofyn iddo ymddangos gerbron ein pwyllgor. Yn sicr, fel pwyllgor rydym yn fwy na bodlon i’w gynnwys yn ein hamserlen; fe addaswn ein hamserlen i’w gynnwys. Hefyd, buaswn yn dweud fy mod yn falch, ers yr ohebiaeth gyhoeddus rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol, Chris Grayling a Ken Skates dros yr haf, lle roedd hi’n ymddangos bod llawer o gynnen yn y llythyrau cyhoeddus hynny, ymddengys i mi fod cam cadarnhaol ymlaen wedi bod yn ystod yr wythnosau diwethaf. Ac yn wir, y ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi heddiw y bydd y tendrau’n cael eu cyhoeddi yfory, sy’n wybodaeth newydd a roddodd i ni y prynhawn yma—rwy’n credu bod hynny ynddo’i hun yn dangos bod yna lawer o ewyllys da a gwaith wedi bod, ac arwydd o ewyllys da rhwng y ddwy Lywodraeth yn y dyddiau a’r wythnosau diwethaf.
Credaf ei bod hi’n iawn i mi ddiolch i ychydig o bobl hefyd. Rwy’n sicr yn diolch i’r 3,000 a gyfranodd i’n harolwg, ac yn rhoi gwybod iddynt fod eu cyfranogiad yn ein harolwg wedi dylanwadu ar ein gwaith a’n hargymhellion. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth lafar hefyd. Roedd yna lawer iawn o bobl a roddodd dystiolaeth ysgrifenedig, sy’n cymryd llawer iawn o amser, felly hoffwn ddiolch iddynt hwy. Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau rhanddeiliaid—ac yn enwedig y bobl a’n cynorthwyodd i drefnu digwyddiadau a chynnwys y bobl iawn yn y digwyddiadau hynny; hoffwn ddiolch i’r bobl hynny.
Hoffwn ddiolch hefyd i’n tîm clercio, a’r tîm integredig ehangach, a hefyd yr adnodd gwych sydd gennym yn y Gwasanaeth Ymchwil. Cawsom rai problemau cymhleth iawn a llwyddodd aelodau o’r Gwasanaeth Ymchwil, yn arbennig, i’n cynorthwyo ni fel pwyllgor gyda hwy, ac mae’n amlwg na fuasai gennym adroddiad heddiw hebddynt. Hoffwn ddiolch eto hefyd i’r rhai a gymerodd ran yn y ddadl hon heddiw. Hefyd, hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ganiatáu i’w swyddogion roi sesiynau briffio technegol i ni, a oedd yn gymorth mawr i ni fel pwyllgor.
Mae llawer wedi digwydd ers i ni gynhyrchu ein hadroddiad. Mae’n un o’r adroddiadau hynny sydd, o bosibl, wedi dyddio’n gyflym i raddau. Ac mae Ysgrifennydd y Cabinet a’i dîm, wrth gwrs, yn ymwybodol iawn fod yna lawer mwy sydd angen digwydd yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Ond fel y mae ar hyn o bryd, mae gennym gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i gychwyn pennod newydd ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a’r gororau. Rwy’n gobeithio bod ein hadroddiad wedi taflu rhywfaint o oleuni ar y broses, wedi tynnu sylw at flaenoriaethau teithwyr, ac wedi darparu her i fwrw ymlaen â phethau. Nid yw’r teithwyr yn haeddu dim llai.