Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 3 Hydref 2017.
Dauwynebog—dyna air y dydd. Rwy'n credu i ni gael hwnnw ddoe gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ei araith a anwybyddwyd yn eang. [Chwerthin.] Nid wyf yn derbyn o gwbl bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn ddauwynebog mewn unrhyw fffordd. Wrth gwrs, byddai'n cyfeirio etholwr i chi at wasanaeth eirioli annibynnol. Dyna sy'n bodoli o dan y strwythur presennol a dyna fydd yn bodoli yn y dyfodol—gwasanaeth annibynnol. Ni all y Gweinidog fod yn annibynnol, wrth reswm, felly rwy'n credu bod yr ateb y mae wedi ei roi i chi yn gwbl gywir: sef os oes angen eiriolaeth ar eich claf, mae'n briodol y dylai'r gwasanaeth eirioli hwnnw fod yn annibynnol. Mae'n briodol, felly, mai'r cyngor iechyd cymuned ydyw, gan mai nhw sy’n darparu'r gwasanaeth hwnnw ar hyn o bryd, ac—rydym ni’n aros i weld, wrth gwrs, beth fydd yr ymatebion i'r Papur Gwyn—rhoddwyd y cyngor cywir i’ch etholwr, yn fy marn i, yn seiliedig ar yr hyn yr ydych chi wedi ei ddweud wrthyf yn y Siambr heddiw.