<p>Gwasanaethau Eiriolaeth i Gleifion</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:37, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Yn sicr. Gwyddom, wrth gwrs, bod hyrwyddwyr effeithiol iawn mewn sawl agwedd ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru, ac maen nhw'n gwneud llawer i ddylanwadu'n gadarnhaol ar gyfeiriad y Llywodraeth ac, yn wir, cyrff ac asiantaethau cyhoeddus. Felly, ydw, rwy’n sicr yn cydnabod y gwaith y mae eich etholwr wedi ei wneud, fel y mae llawer o bobl eraill wedi ei wneud ledled Cymru, gan eu bod yn ychwanegu at yr wybodaeth sydd gan y Llywodraeth fel y gall y Llywodraeth weithredu yn y ffordd fwyaf priodol i'r bobl.