<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:39, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Yn ôl y cyfrif diwethaf, 141 yw nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd. Cynhaliwyd y cyfrif hwnnw ym mis Tachwedd 2016. Mae'n anodd, wrth gwrs, cyfrif y nifer yn rheolaidd gan ei fod yn amrywio i fyny ac i lawr, ond mae hi'n iawn i nodi'r ffaith fod cysgu ar y stryd yn broblem, a dyna pam— bydd yr Ysgrifennydd yn gwneud ei ddatganiad ar y gyllideb yn ddiweddarach—byddwn yn ceisio darparu'r holl adnoddau y gallwn er mwyn lliniaru'r broblem.