<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:44, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, rydym ni wedi bod yn pwysleisio ers cryn amser yng Nghymru yr angen i greu cydraddoldeb parch rhwng yr academaidd a'r galwedigaethol. Felly, ni ddylem wneud cymariaethau negyddol rhwng cymwysterau BTEC a TGAU. Mae un yn gymhwyster galwedigaethol; mae'r llall yn fwy o gymhwyster academaidd. Bydd ysgolion yn cyflwyno ymgeiswyr ar gyfer yr arholiad priodol yn unol â’r hyn y maen nhw'n teimlo sydd ei angen arnynt, o ran eu sgiliau yn y dyfodol.

Mae'n gofyn am PISA. Wel, rydym ni wedi gweld canlyniadau TGAU yn gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn—mae hynny'n arwydd da o ran PISA. Rydym ni wedi gweld gwelliannau mewn pynciau safon Uwch—mae hynny'n arwydd da y bydd PISA yn gwella yn y dyfodol. Mae gennym ni arholiadau newydd, wrth gwrs—rydym ni wedi gwneud yn siŵr eu bod nhw wedi cael eu cyflwyno heb fawr o anhawster. Rydym ni wedi gwneud y penderfyniad i ohirio cyflwyniad y cwricwlwm—dyna'r penderfyniad cywir, a gwyddom fod athrawon a gweithwyr proffesiynol wedi cefnogi hynny. Ac, wrth gwrs, rydym ni’n adeiladu ysgolion ledled Cymru gyfan—ysgolion na fyddent yn cael eu hadeiladu pe byddai ef yn fy swydd i.