<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:54, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Rydym ni wedi cael datgeliad y prynhawn yma o strategaeth UKIP ar gyfer ymdrin ag apelio at bleidleiswyr ifanc. 'Rydych chi i gyd yn blant hawdd eich twyllo' yw'r ffordd y maen nhw’n mynd i gael eu disgrifio yn y dyfodol, felly ni allaf weld llawer ohonyn nhw’n pleidleisio dros UKIP yn y dyfodol.

Yn y 1970au, roedd heriau penodol gyda ‘stagflation’, fel y dylai gofio, oherwydd y cynnydd mawr i bris olew o ganlyniad i argyfwng olew 1973. Gwyrodd hynny’r cylch economaidd arferol ac, o ganlyniad, gwelsom ddiweithdra cynyddol a chwyddiant cynyddol ar yr un pryd, a oedd yn golygu bod y ffordd draddodiadol o chwistrellu arian i'r economi i ymdrin â diweithdra uchel— [Torri ar draws.] Gallaf roi darlith ar hanes economaidd i arweinydd yr wrthblaid, os yw'n dymuno, gan ei fod yn gwybod llai na dim am y peth—[Torri ar draws.] Ac felly mae amgylchiadau'r 1970au yn wahanol iawn, iawn. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrtho am 1976—. Dyma ystadegyn iddo: 1976 oedd yr adeg mewn hanes pan oedd Prydain fwyaf cyfartal—pan roedd Prydain fwyaf cyfartal. Ers hynny, mae'r Torïaid wedi ei gwneud yn fwy a mwy a mwy anghyfartal, a dyna’r hyn y bydd Llywodraeth Lafur yn ei newid.