<p>Y Rhwydwaith Rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:02, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Rydym ni’n croesawu cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer astudiaeth o ddichonoldeb i ailagor rheilffordd Aberystwyth i Gaerfyrddin. Rwy'n siŵr y bydd yn cytuno â mi mai'r ffordd orau o adfywio rheilffyrdd a gaewyd yn bennaf yn y 1960au o dan gynllun Beeching fyddai creu cyfleoedd cost isel ar gyfer y trenau a'r cerbydau a fyddai'n gweithio ar y rheilffordd. Oherwydd y costau gweithredu fydd y rhwystr mawr. Cafwyd amcangyfrif o gyfanswm cost o £700 miliwn i ailagor y rheilffordd benodol hon. Ond bu rhai astudiaethau calonogol iawn a gynhaliwyd o drenau sylfaenol yn cael eu gweithgynhyrchu gan ddefnyddio deunyddiau ysgafn ac yn rhedeg ar gyflymder isel, y gellid eu cyflwyno yn y ddwy flynedd nesaf o ganlyniad i dreial gwerth £4 miliwn. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog bopeth o fewn ei allu i annog cyflwyniad y dechnoleg newydd hon a fydd yn cynnig y cyfle i efallai agor llawer mwy o reilffyrdd yng Nghymru wledig a gafodd eu cau flynyddoedd yn ôl?