Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 3 Hydref 2017.
Prif Weinidog, roeddwn i’n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cadarnhau y bydd gorsaf Carno yn cael ei chynnwys yn y broses asesu cam 2 bresennol ar gyfer gorsafoedd newydd yng Nghymru. Bydd deiseb hefyd yn cael ei chyflwyno i'r Cynulliad yfory gan grŵp gweithredu gorsaf Carno, 10 mlynedd ar ôl y ddeiseb gyntaf, yn annog y Llywodraeth i ailagor gorsaf Carno o fewn cyfnod o bum mlynedd. Nawr bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi y bydd Carno yn cael ei ystyried, a wnewch chi amlinellu beth yw'r camau nesaf yn ystod y broses hon, ac a ydych chi'n teimlo bod pum mlynedd yn amserlen realistig ar gyfer ailagor gorsaf Carno?