<p>Y Rhwydwaith Rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:08, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Yn sicr. Os cofiaf yn iawn, roedd gan Fachynlleth ddepo yn y 1980au, yna fe gaeodd, yna fe’i hailagrowyd, gan fod ei angen, yn amlwg, i wasanaethu trenau ar reilffyrdd canol Cymru ac Arfordir Cambria. Felly, ydym, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n cadw ein rhwydwaith o ddepos, ond hefyd yn cynyddu'r nifer yn y dyfodol, gan ein bod ni’n gwybod y bydd cerbydau newydd, y bydd moddau trafnidiaeth newydd y byddwn ni’n eu hystyried, ac mae'n bwysig, wedyn, bod yr offer yn cael eu cynnal a’u cadw yng Nghymru cyn belled ag y mae hynny’n bosibl.