<p>Recriwtio Nyrsys yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:18, 3 Hydref 2017

Wel, yn ôl y cyfrif diwethaf, roedd 92 o swyddi nyrsys yn Ysbyty Wrecsam Maelor yn wag, gyda nifer, wrth gwrs, cynyddol o nyrsys yn agosáu at oed ymddeol yno hefyd. Nawr, mae prinder y niferoedd yna o nyrsys yn golygu bod nyrsys arbenigol erbyn hyn yn gyson yn gorfod gweithio ar wardiau cyffredinol ac mae’n argyfwng dyddiol yn yr ysbyty, sef y mwyaf, wrth gwrs, yng ngogledd Cymru. Nawr, mae recriwtio tramor drudfawr y bwrdd iechyd, yn India a Barcelona, drwy asiantaeth breifat, wedi bod yn fethiant llwyr; dim ond pedwar nyrs o India, er enghraifft, sydd wedi llwyddo i basio’r prawf iaith. Felly, ar ôl methiant cynllunio’r gweithlu eich Llywodraeth chi dros nifer fawr o flynyddoedd, ar ôl gosod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig ers dros ddwy flynedd a hanner erbyn hyn, a ydych chi yn derbyn cyfrifoldeb am y sefyllfa druenus yma?