<p>Ymchwiliad Cyhoeddus yr M4</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 2:20, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Yn ei thystiolaeth i ymchwiliad cyhoeddus yr M4, cydnabu'r Llywodraeth y bydd traffordd newydd yn achosi niwed hirdymor, ond y byddai’r manteision economaidd byrdymor yn gorbwyso hyn. Mae cynghorydd annibynnol y Llywodraeth ei hun, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru erbyn hyn, wedi dweud nad yw hyn yn gydnaws â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae corff gwarchod y Ddeddf yn dweud nad yw'r cytundebau hyn yn gyfreithlon yng Nghymru mwyach. A wnaiff y Prif Weinidog gytuno i sefydlu grŵp arbenigol i lunio ateb yn gyflym i'r tagfeydd ar yr M4 sy'n gydnaws â chyfraith a basiwyd gennym ni?