Part of the debate – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 3 Hydref 2017.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i agenda heddiw—mae'r amser a neilltuwyd i'r gyllideb ddrafft wedi ei ymestyn i 90 munud. Mae’r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes a geir ymhlith papurau'r agenda, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.