3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 2:23, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

A allwn ni gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ar yr argyfwng cynllunio ym mwrdeistref sirol Caerffili? Nid oes cynllun datblygu lleol gweithredol ar gael ar hyn o bryd ac, o ganlyniad i hyn, mae'r system gynllunio wedi’i gogwyddo’n sylweddol o blaid datblygwyr ac, yn wir, datblygiad anghynaladwy ac amhriodol. Mae’r dyfarniadau diweddar gan yr arolygydd cynllunio wedi tynnu sylw at y ffaith bod y gofyniad am gyflenwad tir pum mlynedd yn trechu'r holl ystyriaethau eraill, gan gynnwys deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol y mae cymaint o sôn amdani. Felly, a allwn ni gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet er mwyn atal yr angen i Gaerffili ddefnyddio’r cyflenwad tir pum mlynedd hyd nes bod cynllun datblygu lleol cynaliadwy ar waith yn y fwrdeistref sirol honno?