Part of the debate – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 3 Hydref 2017.
Ym mis Medi, roeddwn i’n bresennol yn rali Cyllido Teg i Gymru yn erbyn cyni, yn neuadd y ddinas yng Nghaerdydd, ynghyd ag Aelodau eraill o'r Cynulliad, ac yn fwy diweddar, aeth arweinwyr a meiri ledled y DU i San Steffan er mwyn cael cyfarfod, roedden nhw’n gobeithio, gyda'r Llywodraeth ynglŷn â mater cyllid teg, ond ni ddigwyddodd y cyfarfod hwnnw, ac wrth gwrs heddiw mae gennym ddatganiad ar y gyllideb ddrafft gan Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl naw mlynedd o gyni, a thoriadau parhaus. Ac felly, o gofio y disgwylir y bydd cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru, erbyn 2019-20, £1.2 biliwn yn llai, a allai arweinydd y tŷ awgrymu unrhyw ffordd, trwy fusnes y tŷ hwn, y gallwn ni flaenoriaethu’r mater hwn yn well?