Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 3 Hydref 2017.
Diolch. Os caf i droi at rai o'r manylion a'n gwasanaeth iechyd gwladol, mae'r GIG yn flaenoriaeth allweddol i bobl Cymru ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y dylai fod yn flaenoriaeth allweddol i ninnau. Wrth gwrs, rydym yn dal i ddal i fyny oherwydd diffyg amddiffyniad i’r gyllideb mewn termau real dros nifer o flynyddoedd, ond dyma lle'r ydym ni. Mae'r ddogfen ‘Ffyniant i Bawb’ yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau iechyd a gofal yn cronni eu cyllidebau. Felly, a yw'r gyllideb gyfredol wedi rhoi cyfrif am gyflawni'r nod hwn? Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddweud wrthym a yw'r sefydliadau dan sylw wedi cael gwybod yn llawn sut y bwriedir iddynt roi hyn ar waith.
Er fy mod yn croesawu'r ymrwymiad parhaus y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gyhoeddi i gronfa driniaeth newydd, nid ydym yn credu o hyd bod hynny'n gwneud iawn am ddiffyg cronfa trin canser, rhywbeth yr ydym wedi galw amdani ers amser maith yng Nghymru. Ar yr un pryd, rydym yn gwybod bod Llywodraeth y DU yn ddiweddar wedi cyhoeddi 2,000 o nyrsys, ymgynghorwyr a therapyddion ychwanegol ar gyfer gwasanaethau i blant a’r glasoed, a’u bod yn cyflwyno safonau amser aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. A all pobl Cymru ddisgwyl yr un lefel o fuddsoddiad, a faint o'r £40 miliwn a addawyd yn y gyllideb a fydd yn caniatáu ar gyfer newidiadau o'r fath yng Nghymru hefyd, ac, yn hollbwysig, a fydd hyn wedi'i glustnodi'n briodol?
Mae'n hysbys bod gan fyrddau iechyd ledled Cymru ddyledion mawr iawn. Nid yw'n ymddangos bod unrhyw olau go iawn ym mhen draw’r twnnel o ran rheoli'r ddyled hon yn effeithiol. Pa mor hyderus ydych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, y gall dyledion y byrddau iechyd, fel y £49 miliwn ym Mwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda—gallwn i fynd ymlaen—gael yr arian sydd ei angen arnynt drwy'r gyllideb iechyd ac na fyddwn yn gweld dyledion yn cynyddu yn y dyfodol?
I droi at drafnidiaeth a seilwaith, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi amlinellu pa mor dynn yw’r gyllideb ac rydych chi wedi dweud sut rydych chi'n bwriadu defnyddio pwerau benthyca cyllid cyfalaf. Mae’n amlwg bod arian parod yn brin, ond gobeithio y byddwch yn gallu bodloni’r nodau hynny. Ac, os caf i droi at yr M4, mae'n ddiddorol fy mod yn cofio, nid yn hir iawn yn ôl, Plaid Cymru yn dweud y byddai ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r llwybr du, sef eu hoff opsiwn, yn golygu na fyddent yn gallu dod i gytundeb o ran unrhyw gefnogaeth i gyllideb yn y dyfodol. Mae'n siŵr bod hwnnw’n fwy o gwestiwn i Plaid nag i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ond, wedi dweud hynny—ac rwy'n siŵr y gwnewch ddweud mai mater i'r ymchwiliad cyhoeddus yw hwn ar hyn o bryd—mae’n amlwg nad oes cefnogaeth ddofn i draffordd newydd, un o brif bwyntiau polisi trafnidiaeth y Llywodraeth, y tu ôl i'r fargen hon, felly a yw hyn wir yn sail gadarn i fwrw ymlaen arni, ac a yw’r cytundeb hwn wedi’i brofi o dan straen?
I gloi, Llywydd, ac, ar nodyn cadarnhaol, rwy'n croesawu'r ymrwymiad parhaus i fanc datblygu. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cefnogi'r gwaith o ailstrwythuro Cyllid Cymru ers amser maith, ac rwy’n gobeithio y bydd yn talu ar ei ganfed fel yr hoffem i gyd iddo wneud. I gloi, edrychaf ymlaen at weithio gydag aelodau eraill y Pwyllgor Cyllid a gyda chi eich hun i graffu'n llawn ar y gyllideb ddrafft hon dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Ac rwy'n gobeithio y bydd gan Gymru, erbyn y diwedd, gyllideb ddrafft a chyllideb derfynol a fydd wir yn cyflawni ar gyfer anghenion pobl Cymru.