Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 3 Hydref 2017.
Diolch. Byddwn yn ddiolchgar i gael deall gan lefarydd cyllid Plaid Cymru—. Rwy'n deall bod yr Ysgrifennydd cyllid, wrth amlinellu’r gyllideb, wedi dweud ei fod yn bwriadu archwilio mesurau treth penodol yn y sector twristiaeth i godi arian. Nid oedd yn bwriadu lliniaru trethi yn y sector twristiaeth; ei fwriad oedd codi arian. O gofio eich bod wedi cael trafodaethau manwl gyda'r Llywodraeth, beth yw eich dealltwriaeth o uchelgais y Llywodraeth yn y sector penodol hwn, y diwydiant twristiaeth yng Nghymru?