Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 3 Hydref 2017.
O ran yr ardoll dwristiaeth, credaf fod hwn yn syniad sy'n haeddu cael ei archwilio. Fe'i defnyddir yn eang—[Torri ar draws.] Fe'i defnyddir yn eang yn y rhan fwyaf o economïau. Mae gan lawer ohonynt sectorau twristiaeth mwy na ni ac maent yn ei defnyddio i fuddsoddi'n ddeallus yn y sgiliau a'r seilwaith sydd eu hangen i gael economi twristiaeth lwyddiannus. Buddsoddi yn nyfodol eich gwlad yw hyn, a dylech roi cynnig arni rywbryd, yn hytrach nag achwyn o’r ymylon. Pam nad ydych chi'n gweld gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer dyfodol Cymru ac yn dod â'ch syniadau yma i'r Siambr hon? Dyna'r hyn yr ydych wedi eich ethol i’w wneud. O ganlyniad i'r cytundeb hwn a chytundeb y llynedd, a'r compact y gwnaethom ei lofnodi'n wreiddiol, bydd syniadau Plaid Cymru o'n maniffesto wedi'u cyflwyno'n rhannol neu'n llawn am gost o £565 miliwn. Yn wir, bydd y rhan fwyaf o'n prif ymrwymiadau ariannol o'n maniffesto o 2016 wedi eu cyflawni’n rhannol neu'n llawn. Dyna wleidyddiaeth ddemocrataidd ar waith, byddwn yn awgrymu’n barchus i arweinydd y Blaid Geidwadol. Dylai roi cynnig arni rywbryd. Nid ydym ni’n cael ein talu i wneud sylwadau bachog a datganiadau i'r wasg; rydym yn cael ein talu i geisio gwneud ein rhan i wella bywydau pobl Cymru. Dyna pam yr ydym yma yn y Siambr hon, ac ni wnaf ymddiheuro iddo ef nac i neb arall am wneud ein gwaith.