Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 3 Hydref 2017.
Rwy’n cytuno â'r pwynt a wnaeth Adam Price gyda chymaint o angerdd eiliad yn ôl, sef ei bod yn iawn i’r pleidiau yn y tŷ hwn gydweithio er budd Cymru. Felly, cefais fy synnu ychydig, a dweud y gwir, pan ffoniodd Ysgrifennydd y Cabinet fi heddiw, oherwydd ar y radio fore Sul, dywedodd nad oes ganddo lawer o gyswllt â'r Ceidwadwyr ac na allai byth ddychmygu cael sgyrsiau gydag UKIP. Beth bynnag, rwy'n falch iawn o weld ei fod wedi diarddel o fewn ychydig ddyddiau y farn eithaf eithafol honno.
Mae'r ddadl hon, i raddau, yn un o esgus paffio, oherwydd er fy mod yn deall bod y fargen y mae Plaid Cymru wedi'i tharo â Llafur wedi eu galluogi i wneud cyfraniad go iawn i'r gyllideb hon yn fanwl—nid yw tua £500 miliwn yn swm ansylweddol—ond mae cyllideb Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn £15 biliwn i £16 biliwn ac maent wedi’u cyfyngu, beth bynnag, o ran yr hyn y gallant ei wneud ag ef oherwydd y pethau amlwg y mae'n rhaid i unrhyw Lywodraeth eu hariannu. Mae'n anochel bod yr elfen o ddisgresiwn yng nghyllideb Cymru yn gyfyngedig iawn, er y bydd hynny'n sicr yn cynyddu pan gawn ni ddatganoli treth ymhen dwy flynedd. Yna, bydd mwy o opsiynau i wleidyddion etholedig Cymru allu dewis o’u plith o ran (a) lefelau trethi a (b) yr hyn a wnawn â hwy. Ond, wrth gwrs, mae cefndir y gyllideb hon wedi’i nodi yn yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddweud am bolisi Llywodraeth y DU. Mae'n dweud:
‘Os yw Llywodraeth y DU yn parhau ar eu llwybr presennol, rydym yn wynebu estyniad pellach mewn cyfnod o gyni sydd eisoes heb ei debyg o ran hyd a dyfnder.’
Mae hefyd yn dweud, yn yr un paragraff yn y datganiad hwn, bod adroddiad gan brif economegydd Cymru am gyllid cyhoeddus yn y dyfodol a'n rhagolygon economaidd yn dangos rhai negeseuon llwm. Yr un neges yr wyf i’n ei chael o'r pecyn a ddaeth gyda'r ddogfen gyda'r holl fanylion am y gyllideb ynddi heddiw, ac o adroddiad y prif economegydd—mae ar y diwedd, ar dudalen 27, gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol:
‘byddai “rhoddion” newydd heb eu hariannu yn symud y Llywodraeth ymhellach i ffwrdd o'i hamcan cyllidol tymor canolig ac ni fyddent ond yn ychwanegu at heriau tymor hwy. Mewn llawer o ddigwyddiadau ariannol diweddar, mae rhoddion heddiw wedi cael eu hariannu gan addewid o gymryd yn ôl yfory. Y risg yno, wrth gwrs, yw na fydd yfory byth yn dod.’
O ystyried y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn sôn am yr economi, byddai unrhyw un yn meddwl nad oes rhaid talu biliau gwariant byth. Rydym wedi bod i lawr y llwybr difrifol hwnnw lawer, lawer gwaith yn ystod fy mywyd i. Yn y pen draw, mae’n dod yn fater o reidrwydd ac mae’n rhaid ichi allu ad-dalu'r arian yr ydych chi'n ei fenthyca. Yn aml iawn, wrth gwrs, daw'r amser talu’n ôl pan mae hi’n hynod o anghyfleus, ac weithiau'n amhosibl, i wneud hynny. Unwaith y bydd Llywodraeth yn colli ei statws credyd a'i gallu i fenthyca ar gyfraddau rhesymol, y bobl sy'n dioddef fwyaf o dan yr amgylchiadau hynny—mae pob cynsail hanesyddol yn dangos hyn—yw, mewn gwirionedd, y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Rwy'n ildio i Mike Hedges.