4. 3. Datganiad: Cyllideb Ddrafft 2018-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 3:50, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod Cynghrair Twristiaeth Cymru yn hollol gywir, ac nid oes raid ichi siarad â nhw yn unig. Fe allwch chi siarad ag unrhyw fusnes unigol sy'n dibynnu ar dwristiaid o ran ei hyfywedd a byddwch yn gwybod y bu llawer ohonyn nhw’n hwylio’n eithriadol o agos i’r gwynt ers sawl blwyddyn. Rydym ni wedi mwynhau rhywfaint o lwyddiant mewn twristiaeth. [Torri ar draws.] Rydym ni wedi mwynhau rhywfaint o lwyddiant mewn twristiaeth—nid oes gennyf amser. Rydym ni wedi mwynhau rhywfaint o lwyddiant mewn twristiaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda mwy o dwristiaid nac erioed o’r blaen yn dod i Gymru. Dyna rywbeth y dylem ni ei ddathlu, ond rydym ni’n rhwystro'r llwyddiant hwnnw os byddwn ni’n dechrau trethu pobl am ddim ond eisiau cael y cyfle i ddod i aros yn ein cymunedau.

Rwyf yn meddwl tybed pam nad ydych chi wedi ystyried ffyrdd eraill posibl o godi trethi. Un o'r pethau a awgrymais yn y gorffennol yw treth ar gwm cnoi: ardoll gwm cnoi. Rydym ni i gyd wedi cael llond bol ar weld gwm cnoi yn sownd i’n strydoedd, yn achosi llanast ar ein ffyrdd. Mae hynny'n ddrud i’w glirio. Pam nad ydych chi'n ystyried cynigion synhwyrol ynghylch hynny? Pam nad ydych chi'n ystyried cyflwyno ardoll ar ddeunydd lapio bwyd cyflym? Pam nad ydych chi'n ystyried pethau fel derbynebau peiriannau arian parod, sy'n llifo o’n peiriannau ac yn cael eu gadael—yn amlach na pheidio—ar y llawr ger y peiriannau arian hynny? Mae'r rhain yn bethau syml y gallech chi eu hystyried ac na fyddai unrhyw un yn y Siambr hon, rwy’n tybio, o anghenraid yn eu gwrthwynebu.

A gaf i hefyd droi at rai o'r pethau yn y gogledd sydd wedi'u cynnwys yn nogfennau’r gyllideb? Roeddwn i’n falch iawn o weld cyfeiriad at y gogledd. Fel arfer, wrth gwrs, mae’n cael ei anwybyddu yn nogfennau'r Llywodraeth yn y Siambr hon, ond roeddwn i’n falch iawn o weld cyfeiriad at wella’r A55 a'r A548. Wrth gwrs, mae angen dirfawr am fuddsoddi yn y ddwy ffordd ac rydym ni’n gyson yn gweld y diffyg buddsoddiad a'r effaith y mae hynny'n ei chael o ran llif traffig ar y ffyrdd hynny. Ond tybed pa rannau o'r A55 a'r A548, oherwydd mae tueddiad gan y Llywodraeth hon i ddim ond gwario mewn etholaethau Llafur, a dweud y gwir, sydd yn fy nhyb i yn annerbyniol. Rydym ni wedi gweld hynny o ran cynigion buddsoddi yn y seilwaith ffyrdd yn y gogledd, gyda metro gogledd Cymru: dim ond mewn etholaethau Llafur mae hynny’n digwydd. Wel, beth am ymhellach i’r gorllewin? Beth am Orllewin Clwyd? Beth am Aberconwy? Beth am Ynys Môn? Beth am rannau o Wynedd sydd hefyd mewn angen dirfawr am rywfaint o fuddsoddiad? Efallai y gallwch chi egluro beth yw'r sefyllfa o ran yr ardaloedd hynny.

Sylwaf hefyd eich bod yn ceisio buddsoddi'n sylweddol dros y blynyddoedd nesaf yn ein seilwaith amddiffyn rhag llifogydd. Mae hynny rwy’n credu yn rhywbeth sy’n gwbl angenrheidiol. Rydym ni wedi gweld canlyniadau dinistriol llifogydd mewn cymunedau yn y blynyddoedd diwethaf. Y lle sydd fwyaf agored i effaith llifogydd ar hyd arfordir y gogledd yw Hen Golwyn, yn fy etholaeth i fy hun. Mae'r amddiffynfeydd môr yno yn gwarchod cefnffordd yr A55 ac maent hefyd yn diogelu seilwaith y rheilffyrdd, prif reilffordd y gogledd. Nid oes llawer o gartrefi sydd dan fygythiad llifogydd yn Hen Golwyn, a dyna pam na fu unrhyw fuddsoddi yn yr amddiffynfeydd rhag llifogydd yno, er y bu angen hynny. Felly, tybed beth ydych chi’n ei wneud, ynghyd â'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet, i sicrhau bod y seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd a mathau eraill o seilwaith allweddol hefyd yn cael eu gwarchod rhag llifogydd, a bod cydnabyddiaeth i hynny pan eich bod chi’n gwneud penderfyniadau am fuddsoddi er mwyn amddiffyn rhag llifogydd. Felly, efallai y gallwch chi sôn wrthym ni am hynny.

Felly, yn gryno, mae rhai pethau yr wyf yn eu croesawu yn eich cyllideb, ond rwy'n bryderus iawn eich bod wedi awgrymu, eich bod hyd yn oed wedi crybwyll y pwnc o dreth dwristiaeth bosibl. Credaf fod ffyrdd eraill o godi arian na fyddai ein hetholwyr yn eu gwrthwynebu.