Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 3 Hydref 2017.
Diolch. Mae’r newyddion da—y newyddion y mae'r Ysgrifennydd cyllid wedi eu cyhoeddi y bydd gennym ni yn awr y cyfraddau cychwynol isaf o dreth trafodion tir yn y DU. Ac fe deimlais i wefr wirioneddol yn y Siambr pan gyhoeddwyd hynny. Roeddem ni’n teimlo fel Senedd wirioneddol aeddfed, a dyna'r hyn yr wyf eisiau gweld y lle hwn yn datblygu i fod. Fe hoffwn i gael gwybod gan yr Ysgrifennydd cyllid faint fydd hynny’n cei gostio. Nid wyf yn siŵr a amlinellwyd hynny ganddo, ond credaf y byddai hynny'n ddefnyddiol.
Nawr, mae’n rhaid i ni beidio ag anghofio bod y mesurau cyni hyn yn parhau ar adeg pan fo cyflogau wedi aros yn eu hunfan ers 10 mlynedd. Ac, ar ben hyn, yn ystod y 10 mlynedd hynny, tra bu Llywodraeth y Torïaid wrth y llyw yn San Steffan, mae biliau nwy wedi cynyddu 49 y cant, mae biliau dŵr wedi cynyddu 25 y cant, mae prisiau teithio ar y trên wedi cynyddu 27 y cant , mae rhent preifat wedi cynyddu 25 y cant, ac mae bwyd wedi cynyddu 21 y cant. Nid oes unrhyw un o’r rhain yn foethusion. Ond yn hytrach na chefnogi’r tlotaf mewn cymdeithas, beth mae’r Llywodraeth Dorïaidd wedi penderfynu ei wneud? Mae hi wedi penderfynu cosbi’r tlawd drwy gyflwyno credyd cynhwysol. Bydd pedwar can mil o deuluoedd yng Nghymru ar eu colled o £3,400 y flwyddyn erbyn 2020 oherwydd cyflwyno'r mesur newydd hwnnw.
Nawr, yn Lloegr, mae Llywodraeth y Torïaid wedi amddifadu’r tlodion. Mae'r toriadau hynny wedi arwain at gynnydd o 65 y cant yn y lefelau digartrefedd yn Lloegr. Nid yw hynny'n wir yng Nghymru. Rydym ni wedi cyflwyno’r gyfraith newydd hon, gan roi cyfrifoldebau newydd i lywodraeth leol yng Nghymru o ran digartrefedd, a bu’r rhaglen Cefnogi Pobl yn hanfodol yn hyn o beth. Mae angen atgoffa unrhyw un a oedd o bosib yn amau ymrwymiad personol Mark Drakeford i'r mater hwn, ei weithgarwch parhaol ynglŷn â digartrefedd, ei ymdrechion diflino i helpu dechrau a sefydlu Llamau, a'i angerdd a’i waith hirhoedlog i sicrhau cefnogaeth i'r digartref. Nid oes toriadau i'r rhaglen Cefnogi Pobl ac nid oeddwn yn credu y byddai Mark Drakeford, gyda'i hanes hir, wedi cyflwyno’r rheiny. Felly, rwy'n falch iawn o weld hynny, a’r £20 miliwn ychwanegol i fynd i’r afael â digartrefedd.
Nawr, bydd digon o amser i gnoi cil dros fanylion y gyllideb, ond rwyf yn credu ei bod hi’n werth nodi’r £240 miliwn ychwanegol hwnnw i leihau’r pwysau sydd ar ein staff gweithgar yn y GIG. Wrth gwrs, y ddelfryd fyddai rhoi i'n gweithwyr yn y GIG a gweithwyr sector cyhoeddus eraill y codiad cyflog y maent yn ddiau yn ei haeddu, ond, gyda chyllideb benodol a chyfyngedig, yr unig ffordd i wneud hynny fyddai cwtogi ar wasanaethau mewn mannau eraill. Felly, os yw Plaid Cymru mor awyddus i gyflwyno'r codiad cyflog hwn heb gael yr arian ychwanegol gan Drysorlys y DU, mae'n rhaid ichi nodi pa ysbytai yr ydych chi’n mynd i’w cau er mwyn gwneud hynny. Ac o ran y Torïaid yn dweud bod y lefelau dyled yn ysbytai Cymru—. Ydych chi'n gwybod beth yw lefelau dyled ysbytai Lloegr? Mae'n £2.4 biliwn. Peidiwch â dod draw yma i ddweud wrthym ni am lefelau dyled mewn ysbytai.
Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig iawn, y ffaith ein bod ni'n helpu i sicrhau cyllid ar gyfer gofal; mae'n faes hollbwysig, ac rwyf wrth fy modd y bydd yr Ysgrifennydd cyllid yn edrych ar fater trethiant yn y maes hwn. Mae hwn yn rhywbeth y byddwn ni’n edrych arno yn y Pwyllgor Cyllid ac rwy'n gobeithio y byddwn yn cyflwyno syniadau diddorol am hynny yn yr wythnosau nesaf.
Yr un maes yn arbennig yr hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd cyllid yn ei gylch yw ei ymrwymiad i ddiddymu'r tollau ar bont Cleddau erbyn 2020. Mae hwn yn fater y mae'r Blaid Lafur yn lleol wedi ymgyrchu drosto ers blynyddoedd, ac rwyf wrth fy modd ei fod wedi gallu cyflawni hyn. Bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a busnesau yng nghyffiniau’r Aber. Rwyf wrth fy modd hefyd yn clywed bod arian ychwanegol wedi'i neilltuo i dynnu arian o raglen datblygu gwledig yr UE, ond rwyf yn meddwl tybed a allai'r Ysgrifennydd cyllid egluro pa un a fyddwn yn cael, yn yr wythnosau nesaf, mwy o eglurder ynghylch y strwythurau cystadleuol ar gyfer datblygu gwledig economaidd yng Nghymru.
Mae'r Ysgrifennydd Cyllid hefyd wedi gosod cyllideb dwy flynedd. Hoffwn wybod: a yw hynny'n golygu y byddwn ni’n gweld yr un peth yn union y flwyddyn nesaf, ar wahân i ychydig o fân newidiadau? Ac a yw hynny'n golygu na fydd ein hangen ni, sef y Pwyllgor Cyllid, y flwyddyn nesaf? Beth mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd o ran sut mae'r mecanwaith yn gweithio? Nawr, fe wn i fod meintioli'r gyllideb ar adeg o gyni yn orchwyl anodd, ond fe hoffwn i ddiolch i'r Ysgrifennydd cyllid am gadw at yr ymrwymiadau hynny a wnaeth ef ac a wnaethom ninnau ym maniffesto Llafur Cymru, ac am anrhydeddu’r addewidion a wnaethom ni i'r cyhoedd yng Nghymru ac i'r etholwyr.