Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 3 Hydref 2017.
[Yn parhau.] — y credyd cynhwysol sy’n mynd i adael pobl heb arian am chwe wythnos, ac i’r Prif Weinidog, pan gafodd ei chyfweld ar yr egwyddor honno, wfftio at hynny gan ddweud, ‘Fe ddown ni i ryw drefniant’. Wel, rwy'n falch y gall hi ddod i ryw drefniant, oherwydd fe wn i un peth: pan nad oes gennych chi arian o gwbl am chwe wythnos i fwydo eich hun, i dalu eich rhent, neu i anfon eich plant i unrhyw le, ni fyddwch yn medru ymdopi ac ni fyddwch yn gallu dod i ryw drefniant. Felly, o ran diogelu'r £1 miliwn ar gyfer y gronfa cymorth dewisol, sydd mewn gwirionedd yn ddim ond elfen fechan iawn, ond yn elfen hanfodol ac yn rhwyd ddiogelwch, a gafodd ei diddymu gan y Torïaid yn Lloegr ac a adferwyd gan Lywodraeth Lafur flaenorol yng Nghymru, croesawaf hynny ac rwy’n meddwl tybed faint o bobl a gaiff eu cefnogi gan hynny.
Y mater arall yr wyf yn fwy na bodlon yn ei gylch yw—. Ac roeddwn yn gyn-gynghorydd sir yn Sir Benfro, ac wedi hen arfer â hanes hir ac amheus y doll ar bont Cleddau, felly rwy'n croesawu diddymu honno. Ac mae hanes ynglŷn â sut y codwyd yr arian hwnnw a sut y cafodd ei wario. Felly, wrth edrych ymlaen, croesawaf, yn y lle cyntaf, y ffaith na fydd yn rhaid i’r bobl sy'n teithio i’w gwaith ac yn ôl, na’r busnesau sy'n gweithredu ar y naill ochr neu’r llall i'r sir dalu’r dreth leol honno. Rwyf yn gwerthfawrogi bod angen amser i wneud trefniadau pontio, ond o ystyried y gall y cyngor lunio cyllideb yn gwybod y caiff costau cynnal a chadw eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru mewn dwy flynedd, o ystyried y cwestiwn hanesyddol o sut y gwariwyd yr arian dros y blynyddoedd, ydych chi'n meddwl y gallai fod yn syniad da, hyd yn oed yn arwydd o ewyllys da, pe byddai cyngor Sir Benfro yn diogelu’r refeniw doll o nawr tan ei fod wedi'i ddiddymu ac ymgynghori â threthdalwyr ynghylch sut y dylid gwario'r arian hwnnw? Bu hwn yn faes enfawr yr wyf i ac arweinwyr Llafur eraill ar Gyngor Sir Benfro wedi dadlau yn ei gylch flwyddyn ar ôl a blwyddyn. Edrychaf ymlaen at eich ymateb.