Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 3 Hydref 2017.
Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth eang iawn ynglŷn â’r gyllideb. Fe wnaf fy ngorau i ymateb i gymaint â phosib o'r pwyntiau a godwyd, a gwnaf hynny'n gyflym.
Dechreuodd Nick Ramsay y drafodaeth ynghylch hyn ar adeg sy'n ymddangos fel amser maith yn ôl erbyn hyn. Diolchaf iddo am y croeso a roddodd i'r broses gyllideb newydd. Cydnabûm yn fy sylwadau agoriadol effaith y fframwaith cyllidol. Rwy'n falch o gadarnhau i'r Aelod bod adroddiad Prifysgol Bangor ar gael i'r Aelodau ac ar gael yn llawn ac ar gael heddiw. O ran y ddwy dreth newydd, rwy’n amau y bydd wedi sylwi ar y gyfradd o 150 y cant am warediadau treth anawdurdodedig yn y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, oherwydd fe soniodd wrthyf am yr union gyfradd honno yn y Pwyllgor Cyllid ar adeg pan nad oeddwn yn gallu cadarnhau hynny. Ond fe'i cadarnheir ar y gyfradd honno heddiw.
A gaf i ddweud wrth Aelodau'r Grŵp Ceidwadol yma fy mod i’n credu bod angen iddyn nhw ymbellhau ychydig o'r iaith a ddefnyddiwyd ganddyn nhw ynglŷn â threth dwristiaeth? Yr hyn yr wyf i wedi'i wneud y prynhawn yma, Llywydd, yw'r hyn a ddywedais; Rwyf wedi cyhoeddi rhestr fer o gynigion posibl ar gyfer gwaith pellach, ac mae hyn yn un o'r pethau y mae llawer o bobl wedi ei argymell. Roedd Adam Price yn hollol gywir pan nododd bod hon yn dreth a ddefnyddir mewn llawer rhan o’r byd, ac a benderfynir ar lefel leol fel arfer. Y rheswm dros y dreth—gan y bobl hynny sy'n ei hyrwyddo— yw er mwyn gallu buddsoddi mewn cyfleusterau sy'n arwain at fwy o dwristiaid yn yr ardal honno. Dyna ddiben treth dwristiaeth. Nid i ddychryn twristiaid rhag dod; ei diben yw creu amodau lle gall y diwydiant twristiaeth barhau i ffynnu a gwneud mwy. Felly, dyna'r achos dros ei chyflwyno, a byddwn yn ei harchwilio ymhellach. Yn sicr, ni ddylid wfftio at y syniad fel pe na byddai unrhyw werth iddo o gwbl. Efallai na fydd yn cyrraedd y rhestr fer, ond rwyf yn credu bod y syniad nad yw'n werth ei archwilio yn gor-bwysleisio’r achos.