Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 3 Hydref 2017.
Rwy'n treulio fy amser yn gorfod dweud wrth bobl sy'n darparu gwasanaethau y mae ein cyd-ddinasyddion yn dibynnu arnynt fod yn rhaid iddyn nhw baratoi ar gyfer yr adegau anoddach a'r dewisiadau anoddach sydd ar y gorwel. Rwyf wedi dweud hynny lawer gwaith yn y Siambr hon, felly rwy’n deall bod pobl ar lawr gwlad yn deall yr amodau y mae'r gyllideb hon yn cael ei chreu ynddynt ac y bydden nhw’n bryderus ynglŷn â’r hyn y gallai hynny ei olygu iddyn nhw. Yn ffodus, trwy weithredu gyda'n gilydd fel y gwnaethom ni, rydym ni’n gwybod erbyn hyn, ac fe allwn ni roi sicrwydd am ddwy flynedd—oherwydd gofynnodd Bethan ynglŷn â sicrhau ein bod ni’n gallu cynnig mwy na blwyddyn—mae gennym ni ddwy flynedd o sicrwydd nawr i bobl yn y sector bod y gyllideb honno'n cael ei diogelu, ac o ganlyniad i'r gyllideb hon, mae £10 miliwn arall yn y ddwy flynedd ar gael i gynyddu'r gwasanaethau yr ydym ni’n eu darparu yn y maes digartrefedd hefyd. A bydd £4 miliwn o hynny yn mynd trwy gyllideb fy nghyd-Aelod Carl Sargeant, lle bydd yn gallu gwario'r arian hwnnw gyda chymdeithasau tai a'r trydydd sector, gan ddarparu'r gwasanaethau yr ydym ni'n gwybod—. Mae digartrefedd yn fwy na brics a morter; mae'n ymwneud â rhoi sylw i’r anawsterau gwirioneddol y mae pobl yn eu hwynebu—o ran iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, anawsterau gydag alcohol ac yn y blaen — sy’n deillio o fod yn yr amgylchiadau ofnadwy hynny. Bydd yr arian a ddarparwn, trwy Cefnogi Pobl a thrwy'r gyllideb hon, yn ein galluogi i wneud mwy i helpu pobl ar lawr gwlad. Dyna pam, pan gyfeiriodd Dawn Bowden a Joyce Watson ac Eluned Morgan i gyd at y cyfansoddiad cymdeithasol, bod yr arian yr ydym ni wedi gallu ei ddarganfod ar gyfer digartrefedd, ar gyfer y gronfa cymorth dewisol, mor bwysig.
Gadewch imi yn fyr iawn, Llywydd, ddweud rhywbeth wrth Darren Millar. Mae syniadau eraill ar ein rhestr drethi; mae ardoll ar ddeunydd pecynnu bwyd cyflym ar y rhestr a amlinellais heddiw. Rwy'n siŵr, Llywydd, y tro diwethaf i mi edrych, bod pont Menai yn y gogledd-orllewin, a phe byddai wedi edrych yn ofalus ar y cytundeb â Phlaid Cymru, byddai wedi gweld ein bod wedi canfod arian i weithredu’n gynt ar yr ymrwymiad a wnaeth y Prif Weinidog yn yr Eisteddfod ym mis Awst i drydedd groesfan ar draws y Fenai. Bydd fy nghyd-Aelodau yn cyhoeddi manylion y gyllideb ymhen tair wythnos, a bydd yn gweld wedyn y cynlluniau sydd gennym ni, ar gyfer yr amddiffynfeydd rhag llifogydd gwerth £150 miliwn ac ar gyfer gwelliannau i ffyrdd yn y gogledd.
Mae yna fwy, wrth gwrs, y gellid ei ddweud, ond rydym ni ar ddechrau proses, nid y diwedd. Rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi gwneud sylwadau ar y gyllideb y prynhawn yma, ac edrychaf ymlaen at y cyfnod craffu a fydd yn dilyn yn awr.