5. 4. Datganiad: Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Annibynnol o Chwaraeon Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 5:11, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Weinidog, am roi’r newyddion diweddaraf i ni heddiw. Mae gennyf ychydig o bwyntiau a chwestiynau i'w codi mewn cysylltiad â'ch datganiad heddiw, yr adolygiad, a rhai materion ehangach hefyd. Yn eich datganiad, rydych chi'n iawn i gydnabod swyddogaeth llwyddiant chwaraeon i uno a chyffroi'r genedl, ac mae'r adolygiad hefyd yn cydnabod y rhan y mae Chwaraeon Cymru wedi'i chwarae wrth gefnogi a meithrin ein hyfforddeion elitaidd a'n helpu ni i ddod â llwyddiannau medal yn ôl adref. Wrth gwrs, dylem fod yn awyddus i adeiladu a dylem adeiladu ar hyn. Ond mae angen i Chwaraeon Cymru hefyd gyrraedd cymunedau ledled y wlad, fel yr ydym wedi bod yn trafod heddiw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn sicrhau ein bod ni'n cael y cymorth a'r cyfle hwnnw i gael mynediad at wasanaethau, yn ogystal â buddsoddi, nid yn unig yn y brifddinas a’r de. Yn aml, bydd llawer o bobl yn fy ardal i yn cael anhawster i gael mynediad at y cyfleoedd hynny sydd yng Nghaerdydd, nid dim ond oherwydd y pellter daearyddol; nid ydych yn mynd i deithio tair awr a hanner am sesiwn hyfforddi o awr neu beth bynnag, ac mae rhwystrau cost amlwg yn gysylltiedig â hynny. Gwn ei bod yn eithaf hawdd teithio i gael manteisio ar gyfleusterau yng ngogledd orllewin Lloegr, ond credaf fod cyfleoedd i edrych ar sut y gallwn ddatblygu'r gwasanaethau hynny sydd eisoes yn y gogledd-ddwyrain, ac efallai, ymhellach ymlaen, i weld buddsoddiad pellach i alluogi cyfleoedd a chefnogi pobl iau yn arbennig yn y rhanbarth.

Weinidog, mae'r adolygiad yn cyfeirio at Chwaraeon Cymru—. Croesawaf y sylwadau heddiw o ran edrych ar y ddarpariaeth yn y rhanbarthau, a gobeithio y gellid ystyried y pryderon hynny yn rhan o hynny. Mae'r adolygiad yn cyfeirio at fenter chwaraeon yn y gogledd, a sut mae’r cynlluniau wedi’u gohirio ar hyn o bryd. Tybed a oes unrhyw ddiweddariad ar hynny ac, yn amlwg, os ydych chi'n cytuno â mi fod angen inni sicrhau cyfle cyfartal ar draws y wlad.

Rwyf hefyd yn falch o weld pwyslais cryf ar weithio mewn partneriaeth rhwng llywodraeth leol, y trydydd sector, a chyfleusterau addysg, yn enwedig gan gynnwys mwy o gysylltiadau ag ysgolion. Gwn ichi ddweud, mewn ymateb blaenorol, sut yr ydym yn buddsoddi mewn ysgolion ac yn annog cydweithredu. Rwy'n ymwybodol bod rhywfaint o anesmwythyd dealladwy weithiau ar ran ysgolion o ran agor eu cyfleusterau i'r gymuned. Tybed pa swyddogaeth sydd ar gael i Chwaraeon Cymru neu gyrff tebyg eraill wrth weithredu fel hwylusydd i fynd i'r afael ag unrhyw un o'r materion hynny mewn gwirionedd. A tybed a allwn ni ddod o hyd i ffyrdd o rannu arfer gorau pan fo hynny’n llwyddiannus a lle, yn y pen draw, y gallai fod o fudd i ysgolion os gallant godi refeniw o agor eu cyfleusterau hefyd.

Yn olaf, ond nid yn lleiaf o bell ffordd, crybwyllodd Rhun ap Iorwerth fater cydraddoldeb rhywiol mewn chwaraeon, a chredaf fy mod yn dymuno codi a phwysleisio heddiw y rhan sydd gan Chwaraeon Cymru a chyrff chwaraeon cenedlaethol eraill yng Nghymru i sicrhau bod mwy o ferched yn cymryd rhan mewn chwaraeon, ond hefyd roi cydnabyddiaeth, triniaeth, a chydraddoldeb cefnogaeth gyfartal i chwaraeon menywod yng Nghymru. Mae angen inni fod yn glir, drosodd a throsodd, nad ar gyfer bechgyn yn unig y mae chwaraeon, ac nid yw chwaraeon elitaidd yn ymwneud â thimau dynion yn unig. Er fy mod yn cydnabod bod llu o fentrau ac ymgyrchoedd i gael mwy o ferched a menywod yn egnïol ac yn cymryd rhan mewn chwaraeon, cyfyng fydd effaith hyn os nad oes gennym y gwelededd hwnnw i anelu ato ar y cam cyhoeddus. Ni all merched ifanc anelu i fod yn chwaraewyr rygbi cenedlaethol i Gymru neu fod yn chwaraewyr pêl-droed elitaidd os nad oes ganddyn nhw—chi'n gwybod, os na allan nhw weld bod hynny'n ddyhead cyraeddadwy iddyn nhw un dydd.  Mae'n 2017 ac rwy'n siŵr y cytunwch, Weinidog, fod angen cymryd camau i fynd i’r afael â hyn. Pa gamau y gellir eu cymryd i sicrhau ein bod yn darparu llwyfan, llwyfan gwell, i fenywod, a gwell cefnogaeth i chwaraeon menywod yng Nghymru?