Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 3 Hydref 2017.
Cyn troi at yr asesiad effaith rheoleiddiol a'r goblygiadau ariannol, rwy’n dymuno rhoi ystyriaeth yn fyr iawn i’n rhesymau ni dros wneud hyn a pham yr ydym yn bwrw ymlaen â’r ddeddfwriaeth hon. Mae'r Bil yn un o gonglfeini ein rhaglen i drawsnewid anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r gwelliant hwn yn hanfodol a bu hir aros amdano, ac mae'r gallu ganddo i gefnogi degau o filoedd o blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol i wireddu eu potensial yn llawn.
Yr wythnos ddiwethaf, lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg y ddogfen 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl', sef cynlluniau'r Llywodraeth i barhau i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol a hyder y cyhoedd. Mae ein rhaglen i drawsnewid anghenion dysgu ychwanegol yn agwedd allweddol ar y genhadaeth hon, a chredaf fod cefnogaeth eang i'r rhaglen drawsnewid, yn y lle hwn a thu allan ymhlith ymarferwyr ac ymhlith y plant a’r bobl ifanc eu hunain.
Cytunwyd ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar 6 Mehefin. Penderfynais beidio â chynnig y penderfyniad ariannol yr adeg honno er mwyn sicrhau ein bod yn gallu ymgymryd â phroses o ddiwygio ac adolygu'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Roeddwn yn awyddus i Aelodau gael y cyfle i weld a holi a chraffu’r fersiwn ddiwygiedig honno cyn gofyn iddyn nhw bleidleisio ar y cynnig.
Dirprwy Lywydd, ers mis Mehefin, rydym wedi ymgymryd eto â phrosesau sicrwydd ansawdd trylwyr ac rwy'n hyderus fod yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn gywir ac yn gadarn. Dywedais i hyn pan oeddwn i yn y Pwyllgor Cyllid ar 21 Medi ac rwy’n ailadrodd y sicrwydd hwnnw heddiw. Gadewch imi amlinellu tair rhan y broses yr ydym wedi ymgymryd â nhw ers hynny. Rydym wedi ymgysylltu yn helaeth â SNAP Cymru er mwyn llwyr ddeall natur eu pryderon ynglŷn â'r wybodaeth ariannol wreiddiol a sicrhau eu bod yn gyffyrddus â'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol diwygiedig. Rydym wedi derbyn sicrwydd eu bod yn fodlon â'r ffigurau a'r testun erbyn hyn. Mae cynrychiolwyr SNAP Cymru wedi cadarnhau hynny i'r Pwyllgor Cyllid. Rwy'n ddiolchgar iddyn nhw am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud gyda fy swyddogion i gyrraedd y man hwn.
Yn ail, cynhaliwyd adolygiad mewnol cynhwysfawr o'r ffigurau a'r cyfrifiadau, a chafwyd tystysgrif iechyd yn sgil hynny. Ni welwyd unrhyw wallau yn y cyfrifiadau. Nodwyd gwahaniaeth o £20 a gwnaed rhai newidiadau i'r testun i wella eglurder a deallusrwydd. Mae'r ddwy elfen hynny yn achos calondid ynddyn nhw eu hunain. Ond, Dirprwy Lywydd, roeddwn yn awyddus i gael yr hyder mwyaf posibl o ran cywirdeb a chadernid yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Cyn dod â'r cynnig i'r Siambr, roeddwn yn awyddus i sicrhau y gallem ni, ac y gallwn innau, roi i’r Aelodau y sicrwydd cyflawn o gywirdeb, ac felly comisiynais adolygiad allanol. Canfyddiad yr adolygiad allanol hwn oedd bod yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn gynhwysfawr ac yn fanwl gydag amcangyfrifon dibynadwy a phwyllog sydd wedi eu seilio ar y dystiolaeth sydd ar gael. Rydym wedi ystyried yr holl argymhellion sy'n benodol i Asesiad Effaith Rheoleiddiol y Bil hwn.
Edrychodd yr adolygiad yn ehangach hefyd ar y ffordd yr ydym yn cynhyrchu Asesiadau Effaith Rheoleiddiol, gan gymharu’r ffordd hon â ffyrdd eraill o baratoi asesiad effaith rheoleiddiol. Dirprwy Lywydd, mae’r ffordd yr ydym yn paratoi Asesiadau Effaith Rheoleiddiol yn cydymffurfio â Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol a'r arweiniad a nodir gan Drysorlys Ei Mawrhydi. Mae'r adolygiad allanol wedi rhoi set o argymhellion ehangach i'r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru i’w hystyried i’r dyfodol. Rhannwyd y rhain gyda'r Pwyllgor Cyllid ac o fewn Llywodraeth Cymru i'w hystyried ymhellach. Gyda'i gilydd, mae tair elfen y broses adolygu yn cyfeirio at ddogfen sy'n gywir ac yn gadarn, ac yn sail ddidwyll ar gyfer gwneud penderfyniadau.
Gan droi at y goblygiadau ariannol a amlinellir yn y ddogfen hon, rwy’n awyddus i ddweud, yn ddiffuant ac yn blwmp ac yn blaen, nad bwriad y rhaglen drawsnewid yw arbed arian, ac nid dyna fu ei bwriad hi erioed. Mae hi'n ymwneud â symud adnoddau o'r swyddfa gefn i flaen y gad, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu cefnogi i wireddu eu potensial a mwynhau taith eu gyrfa addysgol. Rydym yn gweithredu mewn hinsawdd economaidd heriol iawn o ganlyniad i agenda llymder Llywodraeth y DU. Rydym eisoes wedi trafod effaith hynny ar wasanaethau yn gynharach y prynhawn yma. Rwy'n ymwybodol iawn fod gwasanaethau cyhoeddus yn gorfod gwneud penderfyniadau ariannol anodd nawr yn aml iawn, ond ni ddylai hynny ein hatal ni rhag gwneud yr hyn sy'n iawn a’r hyn y mae'r sector hwn yn ei ddyheu.
Mae'r ffaith yn aros fod yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn dal i ragweld y bydd arbediad cyffredinol pan fydd y system newydd ar waith. Mae hyn yn galonogol, a dyna beth yr ydym yn ei brofi ar lawr gwlad. Rydym yn dymuno gweld yr arian sydd eisoes yn y system yn cael ei ddefnyddio’n fwy effeithiol, a llai ohono wedi ei gyfeirio at fiwrocratiaeth a mwy ohono at gefnogaeth uniongyrchol i ddysgwyr. Gwyddom fod enillion i’w gwneud trwy arbedion effeithlonrwydd. Mae Gwynedd, Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Gwent i gyd yn gweithredu agweddau ar y system newydd, ac rydym i gyd yn gweld yr ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, y cynlluniau datblygu i unigolion ac osgoi anghydfodau a chael datrysiad cynharach yn ennill arbedion gyda gwasanaethau’r swyddfa gefn, sydd wedyn i’w hail-fuddsoddi yn y gwasanaethau rheng flaen. Ac mae hyn yn beth allweddol i mi ac, yn fy marn i, i bawb ohonom ni gyda'n gilydd ar bob ochr y Siambr. Bydd y system newydd yn sicrhau bod adnoddau yn cael eu defnyddio lle byddan nhw’n cael yr effaith fwyaf.
Wrth gwrs, bydd yna gost ymlaen llaw o ran trosglwyddo o'r systemau presennol i'r systemau newydd. Rydym wedi bod yn glir o’r dechrau y bydd angen buddsoddiad yn y cyfnod pontio hwn. Bydd y pecyn cyllid gwerth £20 miliwn yr wyf wedi ei gyhoeddi eisoes yn ymdrin â hyn yn ei gyfanrwydd. Ni fyddwn yn gofyn i bartneriaid cyflawni ariannu’r gwaith o weithredu hyn; bydd y Llywodraeth yn talu'r holl gostau hyn. Bydd ein pecyn cyllid trawsnewid, sy’n werth £20 miliwn , yn mynd y tu hwnt i'r gost o symud o un system statudol i un arall. Bydd yn buddsoddi mewn newidiadau i ddiwylliant ac ymarfer, ac yng ngwella sgiliau'r gweithlu. I gael diwygiad o’r iawn ryw, mae’n rhaid inni wella arbenigedd a hyder ein gweithwyr proffesiynol. Mae hyn yn flaenoriaeth i bob un ohonom ni. Bydd angen inni barhau i gydweithio yn agos â phartneriaid cyflwyno i weithredu’r diwygiadau, ond hefyd o ran y goblygiadau ariannol. Rwyf wedi ymrwymo yn llwyr i wneud hynny a rhoi'r strwythurau priodol ar waith i hwyluso hynny. Rwy'n hyderus ein bod mewn safle da o ran hyn i gyd. Gobeithio fy mod wedi gallu rhoi'r sicrwydd angenrheidiol i aelodau'r Pwyllgor Cyllid eisoes, ac rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am ei adroddiad. Gobeithio y bydd gan bob Aelod hyder yn y broses a'r sefyllfa gyfredol, yn dilyn y ddadl hon.
Dirprwy Lywydd, rwy'n awyddus nawr ein bod yn gallu symud ymlaen gyda'r ddadl. Fel y dywedais yn gynharach, yn amodol ar gymeradwyaeth yr Aelodau heddiw i'r penderfyniad ariannol, byddwn yn symud yn syth i drafodion Cam 2 yfory. Rwy'n edrych ymlaen at barhau â'r ddadl ar y Bil hwn a datblygu'r Bil i sicrhau bod ein prosesau ni yn y senedd yma yn cynhyrchu'r Bil gorau posibl, y ddeddfwriaeth orau bosibl a fydd yn gynsail i'r rhaglen drawsnewid orau bosibl i'n pobl ifanc. Diolch.