Part of the debate – Senedd Cymru am 6:19 pm ar 3 Hydref 2017.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy’n diolch i'r Aelodau am eu sylwadau adeiladol yn gyffredinol a’u geiriau haelfrydig yn ystod y ddadl hon. A gaf i ddweud hyn? Rwy'n poeni weithiau pan fydd Mike yn codi ar ei draed yn ystod dadl yr wyf yn ei hateb, oherwydd nid wyf byth yn hollol siŵr sut i ateb rhai o'i bwyntiau. Ond mae'n gwneud sylwadau teg a deallus iawn ynglŷn â’r gost. Ac ni fydd pris methiant, wrth gwrs, yn cael ei dalu gan yr Aelodau yma, ond gan y bobl y byddwn ni’n eu siomi, a'r plant a’r bobl ifanc sy'n methu â chyflawni eu potensial addysgol gan nad ydym ni, yma, yn cynnig y system i’w galluogi nhw i lwyddo. Rwy’n derbyn y pwyntiau a wnaed gan Llŷr. Ond byddwn i’n dweud wrth Llŷr mai cadernid y craffu seneddol i’r fath raddau sydd wedi taflu goleuni ar y pethau hyn a gorfodi Gweinidogion i ddod i'r lle hwn a phledio achos eu deddfwriaeth, a phledio achos yr hyn y maen nhw'n ceisio ei wneud, yn hytrach na gosod y bar yn llawer is. Felly, rwyf i o’r farn fod bar uwch yn ffordd well o fesur y materion hyn. Rwy'n credu mai’r hyn a ddangoswyd dros y misoedd diwethaf oedd cadernid y broses seneddol yn y lle hwn, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn cydnabod y byddwn bob amser yn ildio i'r prosesau a'r pwyllgorau sydd gennym ni yma, ac i’r argymhellion y mae'r pwyllgorau yn eu gwneud wrth sicrhau nad dim Bil yn unig sydd gennym, ond y Bil gorau posibl a fydd yn cyflawni ar gyfer y bobl yr ydym ni i gyd yn ceisio eu cynrychioli.