8. 7. Dadl: Y Papur Gwyn ar Gynigion ar gyfer Bil y Gymraeg

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:21 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 6:21, 3 Hydref 2017

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd, a diolch am amseru’r trafodaethau yma.

Mi fydd Aelodau yn cofio fy mod i wedi cyhoeddi ein strategaeth ni, ‘Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr’, a’n huchelgais ni i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg nôl ym mis Mehefin. Roeddwn i’n glir, ac roeddwn i’n gobeithio yr oeddwn i’n glir i bob un Aelod ar y pryd, fy mod i’n awyddus iawn i osod ein strategaeth ni a’n gweledigaeth ni ar gyfer y dyfodol cyn ein bod ni yn trafod deddfu a deddfwriaeth, achos mae’r strategaeth a’r weledigaeth yn fwy na Bil, yn fwy na deddfwriaeth, ac yn fwy na’r prosesau yr ydym ni’n eu dilyn fan hyn.

Mae’r weledigaeth o drawsnewid sefyllfa’r Gymraeg yng Nghymru yn rhywbeth rwy’n gobeithio a fydd yn uno pob un rhan o’r Siambr yma. Ond rydw i eisiau sicrhau hefyd bod gennym ni y math o ddeddfwriaeth a fydd yn sicrhau bod gyda ni sylfaen i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Cafodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ei wneud ar ddiwedd y trydydd Cynulliad, yn dilyn oedi gan Lywodraeth San Steffan i roi’r pwerau angenrheidiol i’r Cynulliad i ddeddfu ym maes y Gymraeg. Oherwydd yr oedi, nid oedd digon o amser ar y pryd i ymgynghori ar bolisi’r iaith, ac mae’r diffygion hynny i’w gweld yn y Mesur. Mae calon y Mesur yn y lle iawn. Mae’n rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg. Mae’n rhoi rhyddid i bobl siarad Cymraeg â’i gilydd a, drwy’r safonau, mae’n rhoi hawliau i bawb gael gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ond mae’n rhaid inni nawr ystyried sut mae’r Mesur wedi cael ei weithredu. Pan fo cynghorau Gwynedd a Blaenau Gwent yn cytuno bod yna ormod o fiwrocratiaeth, mae’n rhaid inni wrando. Teitl y Papur Gwyn yw, ‘Taro’r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg’; hynny yw, y cydbwysedd rhwng rheoleiddio a hybu a hyrwyddo’r Gymraeg. Yn gyntaf felly, rwy’n cynnig yn y Papur Gwyn sefydlu comisiwn y Gymraeg. Y bwriad yw i ddod ag arweiniad ac egni newydd at y gwaith o hybu’r Gymraeg.

Mae yna sawl rheswm dros sefydlu comisiwn yn hytrach na rhoi dyletswyddau ychwanegol i’r comisiynydd. Yn gyntaf, mae adroddiad awdurdodol Tŷ’r Arglwyddi ar lywodraethiant rheoleiddwyr yn glir iawn na ddylai corff sy’n rheoleiddio gael ei redeg gan un person. Rwy’n cytuno â hynny. Ac, yn ail, nid yw hybu a hyrwyddo yn golygu balŵns a beiros. Mae hybu yn golygu arbenigrwydd proffesiynol mewn meysydd fel cynllunio ieithyddol, cynllunio gweithlu, datblygu economaidd a newid ymddygiad, ac yn mynd ymhellach â’r cyfryngau a marchnata. Mae’n rhaid i’r comisiwn sy’n arwain y corff newydd gael trawstoriad o’r sgiliau hyn er mwyn gallu hybu’r Gymraeg yn effeithlon. Yn drydydd, ac ar wahân i’r comisiynwyr eraill, rydw i’n cynnig y bydd gan y comisiwn bwerau dyfarnu a chosbi, a bydd hefyd yn rhan ganolog o ran cyflwyno ‘Cymraeg 2050’. Mae cryfder mewn amrywiaeth y gwahanol safbwyntiau, mewn her a sialens.

Un gwrthwynebiad rydw i wedi ei glywed yw nad yw un corff yn gallu rheoleiddio a hybu ar yr un pryd. Nid ydw i’n derbyn y ddadl yma. Mae yna lawer o gyrff sy’n gwneud y ddau beth yn llwyddiannus iawn. Yr enghraifft amlwg, wrth gwrs, yw Cyfoeth Naturiol Cymru, neu’r Comisiwn Cyfrifoldeb a Hawliau Dynol.

Nid ydw i’n argymell mynd nôl at ddyddiau bwrdd yr iaith. Bydd gan y comisiwn gyfrifoldebau ehangach, ac mae safonau yn llawer mwy grymus na chynlluniau iaith. Bydd y comisiwn yn gweithredu mewn fframwaith a thargedau ‘Cymraeg 2050’. Nid oes amheuaeth gen i bydd Llywodraeth Cymru, y Cynulliad, a’r cyhoedd, yn gofyn cwestiynau treiddgar iawn am berfformiad y comisiwn a’i gyfraniad at y miliwn.

Beth, felly, am y safonau? Yn gyntaf, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni gadw’r safonau. Mae hynny yn glir. Nid oes troi nôl ar hynny. Mae dau prif nod i’r cynigion yn y Papur Gwyn: (1) i dorri allan cymaint o’r biwrocratiaeth ag sy’n bosibl, a (2) i sicrhau gyfundrefn sy’n rhoi ffocws ar gywiro gwallau os oes rhywbeth yn mynd o’i le, ac er gwelliant. Rydw i hefyd yn credu y dylai fod gan y drefn atebolrwydd i ni mewn ffordd ddemocrataidd. Rydw i’n cynnig mai Llywodraeth Cymru y dylai wneud a gosod safonau, ac, wrth wneud hynny, gorfod cael cefnogaeth y fan hyn yn ein Senedd cenedlaethol ni. Rôl y comisiwn fydd monitro a gorfodi.

Nid ydw i wedi fy mherswadio bod angen trefn ar wahân pan fo cwyn yn cael ei wneud am wasanaethau Cymraeg. Gellir defnyddio’r un gyfundrefn sy’n bodoli os yw person yn cwyno am wasanaeth i gyngor lleol neu i’r gwasanaeth iechyd. Rydw i’n bwriadu, felly, i’r comisiwn ddilyn yr un drefn â’r ombwdsmon pan fo’r comisiwn yn derbyn cwyn. Yn y cyd-destun hwn, rydw i wedi derbyn ymateb i’r Papur Gwyn oddi wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’r ombwdsmon wedi copïo ei ymateb i’r comisiynydd ac i Simon Thomas, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, sy’n gyfrifol am gyflwyno’r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

Mae’r ombwdsmon yn cynnig y gall ei swyddfa fe delio â chwynion ac ymchwiliadau sy’n ymwneud â safonau fel rhan o’i dyletswyddau craidd. Bydd hyn yn debyg i’r drefn yng Ngwlad y Basg, lle mae’r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus yn gyfrifol am yr iaith. Dirprwy Lywydd, rydw i’n credu bod y cynnig hwn yn un diddorol. Mae’n dangos bod posibiliadau eraill i’w hystyried y tu hwnt i’r cynigion yn y Papur Gwyn. Mi fyddaf i yn ystyried ymateb yr ombwdsmon yng nghyd â’r holl ymatebion eraill i’r ymgynghoriad. Rydw i’n annog pawb i ymateb gyda’u syniadau cyn y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad, sef diwedd y mis hwn.

Rydw i’n gofyn, felly, i’r Aelodau gefnogi’r cynnig hwn, gan dderbyn gwelliannau 1, 3, 5 a 7, a gwrthod gwelliannau 2, 4, 6 ac 8. Rydw i’n gwrthod gwelliant 2 oherwydd mae darlun ehangach yn ‘Cymraeg 2050’. Rydw i’n gwrthod gwelliant 4 oherwydd rydw i’n credu y bydd yn ddryslyd i’r cyhoedd ac yn gwastraffu adnoddau cyhoeddus i gael dau gorff sydd yn gyfrifol am y Gymraeg. Rydw i’n gwrthod gwelliant 6. Rydw i’n bwriadu gosod rheolau iechyd cyn diwedd y flwyddyn, ond, os oes cefnogaeth i’r cynigion yn y Papur Gwyn, bydd yn rhaid i ni gymryd hynny i mewn i ystyriaeth cyn gwneud mwy o reoliadau. Ac rydw i’n gwrthod gwelliant 8. Rydw i wedi gosod allan yn y Papur Gwyn, ac o flaen y Senedd heddiw, fy rhesymau clir dros ddiddymu rôl y comisiynydd a sefydlu comisiwn.

Rydw i’n derbyn gwelliant 1. Mae’r dystiolaeth yn adlewyrchu amrywiaeth farn ar rai o bethau, ac mae hynny’n iach ac yn beth da. Rydw i’n derbyn gwelliant 3. Mae’r Papur Gwyn yn gwarchod hawliau siaradwyr Cymraeg. Rydw i’n derbyn gwelliant 5. Mae pawb am weld llai o fiwrocratiaeth. Ac rydw i’n derbyn gwelliant 7. Mae’r Papur Gwyn yn gwneud cynnig cadarn a phendant i ymestyn y gyfundrefn safonau i’r sector breifat.

A gaf i ddweud hyn wrth gau, Dirprwy Lywydd? Rydw i’n awyddus iawn i glywed barn Aelodau'r prynhawn yma, ond rydw i hefyd yn awyddus iawn i glywed barn pobl ar draws y wlad. Beth rydw i wedi bod yn trio ei wneud trwy gydol y broses yma yw sicrhau undeb ar draws ein gwlad amboutu dyfodol ein hiaith genedlaethol ni. Mae hynny’n golygu ein bod ni’n sicrhau ein hawliau ni fel Cymry Cymraeg i siarad ac i ddefnyddio’r Gymraeg, ac rydym ni hefyd yn hybu ac yn hyrwyddo’r Gymraeg i sicrhau bod mwy o’n cyd-Gymry yn defnyddio ac yn dysgu Cymraeg a defnyddio’r iaith. Mae hynny yn golygu, ambell waith, ein bod ni’n gwrando ar bethau nid ydym ni eisiau eu clywed, ac rydym ni’n gwrando ar farnau sydd yn wahanol iawn i’n rhai ni. Beth rydw i wedi bod yn ei wneud fel Gweinidog dros y Gymraeg yw cynnal a chydio yn y math o drafodaeth a fydd yn sicrhau undeb ar ddiwedd y drafodaeth. Diolch yn fawr.