Part of the debate – Senedd Cymru am 6:36 pm ar 3 Hydref 2017.
Diolch i chi am gynnal y drafodaeth yma ar y Papur Gwyn ar gynigion ar gyfer Bil y Gymraeg. Mae’r ymgynghoriad, wrth gwrs, yn mynd ymlaen tan ddiwedd y mis ac mae’r ddadl yma yn ffordd dda o atgoffa pobl o’r angen i gofnodi eu sylwadau drwy’r ymgynghoriad cyn y dyddiad cau.
Rydym ni wedi gosod ein safbwynt ni fel plaid yn glir iawn drwy gyfrwng gwelliannau sy’n egluro’n gweledigaeth ni, a gweledigaeth sydd yn wahanol i un y Llywodraeth. Nid ydym ni am weld unrhyw wanhau na chyfyngu ar hawliau cyfreithiol presennol siaradwyr Cymraeg. Rydym yn credu bod angen cadw rheoleiddio a hyrwyddo ar wahân, a’u bod yn cael eu cwblhau gan ddau gorff gwahanol, ac rydym yn galw am symud ymlaen efo’r safonau iaith ar gyfer iechyd a chymdeithasau tai ar fyrder, ac yn galw am amserlen ar gyfer cyhoeddi safonau i’r sectorau ynni, dŵr, telathrebu, trenau a bysys. Rydym yn galw ar y Llywodraeth i ymestyn y safonau iaith i weddill y sector preifat. Felly, rydym yn gosod ein stondin yn glir ar gychwyn y broses.
Mi fyddai unrhyw wanhau, unrhyw gyfyngu ar y ddeddfwriaeth, yn gam sylweddol yn ôl i’r Gymraeg. Gyfeillion, mae’r Gymraeg yn colli tir. Dim ond mewn 7 y cant—7 y cant—o gymunedau Cymru y mae’r Gymraeg yn iaith dros 70 y cant o’r boblogaeth, yn iaith fyw ar y stryd ac yn y dafarn. Mae hynny yn loes calon i mi, ac ni fedraf gefnogi unrhyw droi nôl, unrhyw wanhau ar yr hawliau sydd wedi eu sefydlo’n barod. I’r gwrthwyneb: ymlaen, gweithredu, cryfhau sydd angen os ydym o ddifri eisiau gweld y Gymraeg yn parhau.