Part of the debate – Senedd Cymru am 6:53 pm ar 3 Hydref 2017.
Mae yna waith mawr i’w wneud i gyrraedd nodau’r strategaeth iaith, onid oes? Mae yna wagleoedd, yn sicr. A’r asiantaeth hyrwyddo a hybu ydy un ohonyn nhw, a dweud y gwir. Roedd ein plaid ni yn galw am greu asiantaeth o’r math hwnnw ac roedd sicr yn gamgymeriad strategol i gael gwared â’r elfen honno. Ond wrth geisio llanw’r gwagle yna, y perygl yw, wrth gwrs, ein bod ni wedyn yn gwanhau yn enbyd y rhan o’r gyfundrefn sydd yn ymwneud â rheoleiddio sydd yn dechrau delifro, a dweud y gwir.
Roeddwn yn edrych ar y ffigurau ar gyfer y cynnydd sydd wedi bod yn barod yn adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg. Maent yn syfrdanol, a dweud y gwir, o ystyried bod y gyfundrefn newydd o dan y Mesur ddim ond wedi bod yn gweithredu ers ychydig dros flwyddyn yn llawn. Hynny yw, cyfarchiad Cymraeg neu ddwyieithog i 90 y cant o alwadau ffôn—cynnydd o 31 y cant ers y flwyddyn flaenorol. Pum deg pedwar o dderbynfeydd yn arddangos yn glir fod croeso i ddefnyddio’r Gymraeg—cynnydd o 28 y cant dros y flwyddyn flaenorol. A nawr 25 y cant o hysbysebion swyddi yn dweud bod y Gymraeg yn hanfodol—cynnydd o 9 y cant ers y flwyddyn cyn hynny.
Rŷm ni mewn perig o chwalu’r gyfundrefn reoleiddio, yntefe, wrth ei bod hi nawr yn dechrau delifro. Wel, nid fi sydd yn dweud hynny, Alun. Roeddech chi’n dweud eich bod chi eisiau consensws. Cael ei chwalu mae’r consensws iaith. Mae Dyfodol yr Iaith yn gwrthwynebu, mae Cymdeithas yr Iaith yn gwrthwynebu, mae hyd yn oed Huw Onllwyn, cyn-bennaeth uned iaith Llywodraeth Cymru, yn collfarnu rhai o’r awgrymiadau craidd yma sydd gyda chi. Hynny yw, mae creu un corff ar gyfer hybu a rheoleiddio yn gamgymeriad, oherwydd maen nhw’n nodau ac yn weithgareddau gwahanol iawn sydd yn galw am ymagwedd a llywodraethiant a sgiliau gwahanol iawn.
Mae’r cwestiwn yma’n ganolog, o roi’r grym i’r Llywodraeth i osod y safonau. Mae hynny’n gamgymeriad dybryd, ac mae Huw Onllwyn ei hunan yn dweud, ‘Rwy’n ofni ein bod ni ar fin colli gwasanaeth pencampwr iaith annibynnol’, a’r Llywodraeth fydd yn rheoli popeth. Ac yng nghyd-destun hawliau, wrth gwrs, mae hynny’n bryder mawr, yntefe, achos beth sy’n digwydd os ydy gwleidyddiaeth yn newid? Roedd y Gweinidog yn sôn bod sefyllfa’r comisiynydd yn rhoi’r grym i gyd yn nwylo un person. Wel, yn ffeithiol, mae yna ddirprwy gomisiynydd ac yn y blaen, ac mae yna system lywodraethiant, ac mae yna staff ac yn y blaen. Ond, wrth gwrs, beth rŷch chi’n ei awgrymu, wrth roi’r hawl i’r Llywodraeth osod y safonau, yn y pen draw, ydy rhoi—. Wel, ar hyn o bryd, Alun, ar hyn o bryd mae’r safonau’n dod yn ôl i’r Cynulliad yma. Mae hynny’n briodol, wrth gwrs, mewn system ddemocrataidd. Beth rydym ni’n sôn amdano fe, wrth gwrs, ydy rhoi gormod o reolaeth uniongyrchol i’r Llywodraeth, a’r Llywodraeth, wrth gwrs, wedi hynny, yn wynebu gwrthdaro buddiannau. Maen nhw’n ariannu’r cyrff sydd yn cael eu rheoleiddio, a Gweinidogion yn dod atyn nhw wedi hynny i ddweud, ‘Wel, a ydym ni’n gallu gwanychu’r safonau yn y cyd-destun hwnnw?’
Mae system o annibyniaeth trwy system gomisiynydd neu gorff ‘collective’ yn golygu bod yna hyder gan siaradwyr Cymraeg fod yr hawliau yn mynd i gael eu gweithredu. Roedd Sian Gwenllian wedi dweud bod hyn yn hollol ganolog: yr hawl gyda’r unigolyn i gwyno’n uniongyrchol i gomisiynydd, i swyddfa comisiynydd, sydd wedi hynny yn mynd i ymchwilio. Yn lle hynny, ie, cwyno i’r cyrff sydd yn tramgwyddo. Wel, roedd hynny wedi gweithio yn arbennig o dda am flynyddoedd i siaradwyr Cymraeg, oedd e? Dyna pam roedd rhaid creu Mesur y Gymraeg: er mwyn rhoi sicrwydd i siaradwyr Cymraeg ein bod ni yn mynd i gael hawliau cyfartal yng Nghymru.
Alun, roeddet ti a fi yn rhan o’r ymgyrch yna dros hawliau i siaradwyr Cymraeg, ac rŷm ni nawr yn cefnu arno fe. Hynny yw, mae’n cael ei dynnu’n ôl, colli momentwm, glastwreiddio. Dyna mae eich Papur Gwyn chi yn ei gynrychioli. Mae eisiau dechrau o’r dechrau. Rwy’n cytuno â Jeremy Miles: pam ddim cael hawliau sylfaenol mewn deddfwriaeth? Dyna sydd wedi delifro i bobl eraill mewn cyd-destunau eraill o anfantais. Pam nad yw Llywodraeth Cymru yn dangos y math yna o uchelgais a radicaliaeth yn lle’r Papur Gwyn tila yma sydd yn mynd â ni gam yn ôl?