Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 10 Hydref 2017.
Wel, edrychwn ymlaen at y diwrnod pan fydd Llywodraeth Lafur yn San Steffan, ond gofynnodd i mi restru'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud. Wel, cynorthwywyd 11,000 o bobl ers mis Ebrill 2015; mae'r ystadegau digartrefedd diweddar ar gyfer chwarter cyntaf 2017-18 yn dangos cyfradd lwyddiant gyson mewn cyfnod o alw cynyddol; mae digartrefedd 63 y cant o'r holl aelwydydd a oedd dan fygythiad o ddigartrefedd wedi ei atal yng Nghymru oherwydd deddfwriaeth a gyflwynwyd gennym ni—mae'r ddeddfwriaeth, rydym ni’n gwybod, wedi bod yn ddigon dylanwadol gan fod Lloegr yn bwriadu ein copïo ni; rydym ni wedi dangos yn eglur ein penderfyniad i leihau digartrefedd yn y gyllideb ddrafft—bydd y £10 miliwn ychwanegol ar gyfer pob un o'r ddwy flynedd nesaf yn galluogi awdurdodau lleol i ddwysáu eu hymdrechion i sicrhau’r canlyniad gorau i'r rheini sydd mewn perygl o fod yn ddigartref; rydym ni newydd gyhoeddi £2.6 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer prosiectau arloesol i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd a digartrefedd ieuenctid; rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi'r ymgyrch End Youth Homelessness ac rydym ni’n gweithio â hi i ddatblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r broblem honno; ac wrth gwrs, mae gennym ni rownd arall o wahanol ddulliau, sy'n cynnwys llwybr tai i helpu cyn-bersonél y lluoedd arfog, y llwybr cenedlaethol i gyn-droseddwyr, y llwybr i helpu pobl ifanc i osgoi digartrefedd, a fframwaith llety ar gyfer pobl sy'n gadael gofal i sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddod o hyd i lety addas. Nid yw'n swnio fel syrthni i mi.