<p>Digartrefedd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 10 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:57, 10 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy’n adnabod y Wallich yn dda iawn. Yn rhyfedd ddigon, mae eu pencadlys ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar y stryd lle’r wyf i’n byw—yn llythrennol i lawr y ffordd. Rydym ni wedi gweithio â nhw ar sail etholaeth dros flynyddoedd lawer i helpu pobl sydd wedi wynebu digartrefedd. Cyfeiriaf yr Aelod yn ôl at y pwynt a wneuthum yn gynharach ar y ffaith ein bod wedi dyrannu £2.6 miliwn o'r cyllid ar gyfer prosiectau arloesol i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd a digartrefedd ieuenctid. Mae'n bwysig, rwy’n credu, gweithio gyda sefydliadau sydd â phrofiad ar lawr gwlad ac i’w caniatáu i ddatblygu'r atebion y maen nhw’n credu sy’n iawn, gan ddarparu, wrth gwrs, cyllid gan Lywodraeth Cymru.