Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 10 Hydref 2017.
Ie. Nid oes angen ailadrodd yr hyn sydd eisoes yn cael ei wneud nac ailddyfeisio’r olwyn. Gwyddom fod sefydliadau ar gael sydd â phrofiad uniongyrchol ar lawr gwlad o helpu pobl. Gwaith y Llywodraeth o dan yr amgylchiadau hynny yw helpu'r sefydliadau hynny, a dyna, wrth gwrs, yr ydym ni’n mynd i’w wneud gyda'r cyllid yr ydym ni wedi ei gyhoeddi i alluogi prosiectau i gael eu cynnig sy'n arloesol ond, yn bwysig, wrth gwrs, yn gallu cael y cyllid.