<p>Argaeledd Tai</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 10 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:11, 10 Hydref 2017

Brif Weinidog, yn gynharach eleni, fe godais i waith Hafan Las, grŵp lleol yn sir Benfro sydd yn hybu cymunedau cyd-dai, gyda chi mewn sesiwn o gwestiynau. Byddai cynlluniau fel hyn yn golygu tai effeithlon fforddiadwy i bobl leol gydag o leiaf traean o’r trigolion dros 50 oed er mwyn hybu pontio’r cenedlaethau. Yn eich ymateb nôl ym mis Mai, dywedoch chi fod hyn yn rhywbeth y byddech chi a’ch swyddogion â diddordeb ynddo. Felly, yn sgil eich sylwadau blaenorol, a allech chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi projectau fel hyn yng ngorllewin Cymru?