<p>Trydydd Croesiad ar Draws y Fenai</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 10 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:19, 10 Hydref 2017

Wel, yr ateb yw, yn blwmp ac yn blaen, ‘ddim eto’. Nid oes yna unrhyw fath o gytundeb eto. Fe wnes i godi hwn gyda’r grid tua dwy neu dair blynedd yn ôl. Bryd hynny, roeddem ni eisiau ystyried gyda nhw ym mha ffordd y gallem ni ddatblygu croesiad i’r Fenai. Bryd hynny, nid oedd diddordeb gyda nhw. Maen nhw wedi newid ers hynny, ond nid ydym ni mewn sefyllfa lle rydym ni’n gallu dweud, ‘Mae yna gytundeb’. Erbyn mis Mai, wrth gwrs, y flwyddyn nesaf, byddwn ni yn cyhoeddi beth yw’r llwybr rydym ni eisiau ei gymryd er mwyn i’r bont gael ei hadeiladu. Erbyn hynny, wrth gwrs—yn bell cyn hynny, gobeithio—byddwn ni mewn sefyllfa lle rydym ni’n gwybod beth yw sefyllfa’r grid, a pha fath o gyfraniad maen nhw’n fodlon ei roi i’r bont.