Part of the debate – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 10 Hydref 2017.
Mae arweinydd y tŷ yn ymwybodol iawn o fy niddordeb mewn buddsoddi i arbed. Mewn gwirionedd, mae hi siŵr o fod wedi bod ar goll heb fy nghwestiynau dros y 18 mis diwethaf fwy neu lai. Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar lwyddiant arloesi i arbed, a sut y mae arloesi llwyddiannus yn cael ei hyrwyddo ar draws Llywodraeth Cymru ac ym mhob rhan o sector cyhoeddus Cymru.