Part of the debate – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 10 Hydref 2017.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth—neu ddatganiad gan y Llywodraeth ac, rwy’n credu, dadl y Llywodraeth, mewn gwirionedd? Yn gyntaf oll soniaf am y datganiad. Bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol bod heddiw yn ddiwrnod pwysig ar gyfer ein cyd-Senedd yng Nghatalonia, oherwydd mae ganddynt benderfyniad pwysig iawn i’w wneud wrth ymateb i refferendwm a gafodd ei amharu gan heddlu Sbaen gydag ymddygiad ymosodol a threisgar, ac mae'n rhaid iddyn nhw nawr gynllunio ffordd ymlaen. Bu'n destun pryder mawr nad yw gwladwriaeth Sbaen wedi ceisio dechrau trafodaeth, nac unrhyw drafodaeth ystyrlon. Yr unig beth a wnaeth oedd bygwth a defnyddio cyfraith gyfansoddiadol i atal pobl Catalonia rhag mynegi eu hewyllys yn rhydd. Mae’n destun cryn bryder, rwy'n credu, bod sefyllfa'r Llywodraeth Lafur hon wedi bod mor ddiymadferth wrth ymateb i hynny, o gofio hanes y brigadau rhyngwladol o Aberdâr i Albacete, fel y mae'r llyfr yn ei ddweud wrthym. Yn y cyd-destun hwn, credaf mai dim ond aros am rai briwsion o fwrdd y Canghellor a wnaeth hi. Dyna sy'n gwneud hyn hyd yn oed yn fwy annymunol. Ymddengys ei fod yn cael ei wneud ar gyfer rhyw realpolitik tymor byr iawn yn hytrach nag ar gyfer golwg hirdymor ar sut yr ydym ni’n datblygu yn y cyffredindeb Ewropeaidd o ran ein hunaniaeth ranbarthol, ein hunaniaeth genedlaethol a mynegiant ewyllys rydd.
Ymyrraeth arwyddocaol yr wythnos hon fu'r ymyrraeth gan yr Elders, fel y’u gelwir—rhyw chwech uwch-lysgenhad rhyngwladol dan arweiniad Kofi Annan—sydd wedi galw am gymrodeddu a chyfryngu rhyngwladol yn yr amgylchiadau hyn. Mae nifer o wledydd Ewropeaidd wedi cefnogi hyn. Mae Cymru, sydd â chysylltiad cryf â phenrhyn Sbaen, yn parhau i fod yn wlad sydd â’i Llywodraeth a'i Senedd ei hun, ac mae'r Senedd wedi dweud rhywbeth am hyn ond nid yw'r Llywodraeth wedi dweud unrhyw beth. A gaf i annog arweinydd y tŷ, er ei bod hi braidd yn hwyr erbyn hyn, i wneud datganiad cyhoeddus o gefnogaeth i’r angen am gydweithrediad a chyfryngu rhyngwladol a’r angen i wladwriaeth Sbaen gael trafodaeth ystyrlon fel y gellir datrys y sefyllfa yng Nghatalonia yn unol ag ewyllys pobl Catalonia?
Yr ail fater yr hoffwn i ei godi—ac rwy’n credu mai dyma ble y bydd dadl yn addas—yw o ran y ddau Bapur Gwyn a gyhoeddwyd ddoe gan Lywodraeth y DU ar dollau ac ar fasnach. Maen nhw’n llawn rhethreg; nid oes unrhyw gynnig ynddynt mewn gwirionedd. Mae'n anodd iawn gwybod beth y byddan nhw’n ei olygu i ni, ond rwy’n credu y byddai dadl yn amser y Llywodraeth yn caniatáu inni archwilio sut y gallwn ni gyfrannu at yr hyn fydd y trefniadau tollau a masnach wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Yn fy marn i, nid oes llawer i ymgysylltu ag ef. Rwy'n hynod o bryderus bod y papur tollau yn sôn am y ffin tirol rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, sy’n iawn, ond nid yw'n sôn am y ffin forol sydd gennym rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon. Felly, os ydym ni’n mynd i weld trefniadau tollau yn dod i rym, mae angen inni ddeall beth y mae hynny'n ei olygu i'n porthladdoedd ni, o Gaergybi i lawr i Abergwaun yn arbennig, ac wrth gwrs, Doc Penfro. Nid oes unrhyw fanylion yno, ond mae yna—roeddwn i ar fin dweud awgrym 'diddorol'—nid yw’n ddiddorol iawn, ond mae yna awgrym na allwn ni gael unrhyw gytundeb, y gallem ni yn sydyn fod mewn sefyllfa lle y byddem yn gorfod trefnu trefniadau tollau. Ac eto rydym ni i gyd yn gwybod nad oes unrhyw beth wedi’i baratoi, nad oes unrhyw dir wedi'i neilltuo, nad oes unrhyw adeiladau ar gyfer gwneud hyn: ceir pethau ymarferol iawn nad ydynt yn cael sylw yn y papurau hyn, ac eto dywedir wrthym y gallai hyn fod yn bosibilrwydd real iawn. Felly, credaf y byddai dadl yn ein galluogi ni i archwilio rhai o'r materion hyn, ond rwy'n awyddus iawn, os yw hynny’n bosibl, heddiw, pe byddai Arweinydd y Tŷ yn gallu cadarnhau: pa fewnbwn a fu gan Lywodraeth Cymru i’r ddau bapur hyn? Yn arbennig, dywed y papur masnach y bydd mewnbwn gan weinyddiaethau datganoledig—rwy'n credu bod y defnydd o'r gair 'gweinyddiaethau' yn hytrach na 'Llywodraethau' yn dangos yn glir beth y maen nhw’n ei feddwl ohonom ni—ond serch hynny, mae'n dweud ‘mewnbwn’. Felly beth yw'r mewnbwn hwnnw? A ydym ni’n gallu deall beth yw'r broses barhaus ar gyfer y drafodaeth ynghylch y ddau bapur, ac rwy’n tybio eu bod nhw bellach yn ffurfio asgwrn cefn yr hyn y bydd Llywodraeth y DU yn ei wneud, er bod y cig ar yr esgyrn yn denau iawn, iawn?