Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 10 Hydref 2017.
Diolch am y cwestiynau yna. Rydych chi’n hollol gywir bod gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol yn rhai o'r heriau mawr yr ydym ni’n eu hwynebu yn ein hoes ni, a dyna pam, yn ein rhaglen lywodraethu, y gwnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod y sector fel sector o bwysigrwydd strategol cenedlaethol. Rwy'n falch iawn bod y sector wedi ei gydnabod, yn 'Ffyniant i Bawb', yn un o'r pum maes allweddol a all wneud y gwahaniaeth mwyaf i bobl Cymru, a chredaf fod hynny'n gadarnhaol iawn, iawn.
O ran sut mae cyllidebau cyfunol yn gweithio'n ymarferol, rydym ni wedi darparu'r canllawiau statudol i awdurdodau lleol fel modd o ddisgrifio hynny, ac mae cyllidebau cyfun mewn gwirionedd yn ymwneud â mynd ati mewn modd integredig i gytuno ar y ffioedd gyda darparwyr, cytuno ar fanylebau, a chytuno ar yr ymrwymiadau ariannol hynny y bydd pawb sy’n rhan o’r bartneriaeth yn eu gwneud.
Mae'r mater trawsbleidiol a awgrymwyd gennych chi yn ddiddorol iawn mewn gwirionedd yn yr ystyr bod y byrddau partneriaeth rhanbarthol yn cynnwys partneriaid y daethpwyd â nhw at ei gilydd o’r holl sectorau. Felly mae hi yn bwysig bod gweithio trawsbleidiol da yn digwydd, ac yn sicr nid wyf i wedi cael unrhyw wybodaeth i awgrymu fel arall. Mae'r trydydd sector hefyd yn bartneriaid hollbwysig, a dyna pam, mewn gwirionedd, ar fyrddau partneriaeth rhanbarthol, mae hawl i ddau berson fod yn cynrychioli'r trydydd sector ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny, a chredaf fod hynny’n dangos, mewn gwirionedd, y pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r rhan y gall y trydydd sector ei chwarae o ran diwallu anghenion gofal cymdeithasol a hefyd yr arbenigedd y maen nhw’n ei gyfrannu a'r ffaith eu bod yn agos iawn, iawn at bobl ar lawr gwlad, fel y gallant yn sicr fod yn llais i bobl y maen nhw’n eu cynrychioli.
Mae gan y Gronfa Gofal Integredig elfen o gyllid cyfalaf gwerth £10 miliwn yn rhan ohono, ac yn sicr mae hynny yn cynnig cyfleoedd, efallai, i addasu’r cyfleusterau presennol, ac yn y blaen, er mwyn eu gwneud yn addas i ddiwallu anghenion pobl. Rydym wedi gweld enghreifftiau o hyn mewn rhai o'r gwasanaethau camu i fyny, camu i lawr, er enghraifft, sydd wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus o ran atal pobl rhag gorfod mynd i’r ysbyty yn ddiangen, ond hefyd o ran hwyluso’r broses o ddychwelyd adref yn gynharach.