Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 11 Hydref 2017.
Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Ar 1 Ebrill, bydd pwerau mewn perthynas â pheiriannau betio ods sefydlog yn cael eu datganoli i’r Cynulliad. Bydd yr Aelodau yma’n ymwybodol o’r pryderon cynyddol ynglŷn â gamblo cymhellol. A all y Cwnsler Cyffredinol wneud sylwadau ar sut y gallai’r pwerau hyn fod o gymorth i fynd i’r afael â’r broblem gymdeithasol gynyddol hon?