Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 11 Hydref 2017.
Galwadau Llywodraeth Cymru yw’r rhai sydd wedi eu nodi yn y gwelliannau, a fuasai’n datrys y diffygion yn y ddeddfwriaeth ei hun mewn gwirionedd. Gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad clir iawn amdanynt, ac mae’r gwelliannau hynny ar gael i’w gweld. Yn eu hanfod, nid yw’r galwadau ond yn gofyn am gydsyniad Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn y meysydd hynny lle y cipir pwerau sy’n gyfrifoldebau datganoledig.