6. 6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y Goblygiadau i Borthladdoedd Cymru o Adael yr Undeb Ewropeaidd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 11 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:03, 11 Hydref 2017

Diolch, Gadeirydd, a diolch am y cyfle i gael cyfrannu at y ddadl yma. Er ein bod ni’n sôn am bryderon am ddyfodol porthladdoedd ym mhob rhan o Gymru, fel Aelod Ynys Môn rydw i’n siŵr y gwnewch chi faddau imi am ganolbwyntio ar Gaergybi, y dref forwrol, falch ers cyn cof, ond a ddatblygodd yn aruthrol o bwysig fel y prif borthladd ar draws môr Iwerddon o Gymru, ers i Telford ddod â’r A5 yno bron i ddwy ganrif yn ôl. Ers dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, felly, tyfu a thyfu mae’r porthladd wedi’i wneud. Roedd rhai o’m cyndeidiau i ymhlith y rhai a fu’n gwneud eu bywoliaeth yn gwasanaethu’r llongau post, y llongau nwyddau a llongau teithwyr. Mae ymhell dros 1,000 yn dal i gael eu cyflogi’n uniongyrchol ym mhorthladd Caergybi—mae llawer mwy yn yr economi ehangach yn ddibynnol ar y porthladd. Mae 4.5 miliwn o dunellau o nwyddau’n pasio drwyddo bob blwyddyn. Fel rydym ni wedi’i glywed, dim ond Dover sy’n fwy o ran llif ceir a cherbydau nwyddau ar ‘ferries’.

Ond, os ydy Caergybi wedi cael ei greu, wedi cael ei ddiffinio drwy brysurdeb ei borthladd yn y gorffennol, nid oes cuddio’r bygythiadau sy’n ei wynebu fo rŵan. Mae unrhyw rwystr i lif cerbydau a nwyddau yn fygythiad i borthladd Caergybi, ac felly’n fygythiad i les pobl Caergybi. Felly, mae’n rhaid i ni fynnu sicrwydd ar nifer o feysydd. Rydym yn gwybod am y peryg i fasnach os bydd yna rwystrau ariannol. Mae hynny’n codi cwestiynau dwys ar gyfer yr holl economi—tariffau ac ati—ac rwy’n synnu na wnaeth yr Aelod Ceidwadol gyfeirio at hynny. Ond mi ganolbwyntiaf i ar ddwy elfen yr adroddiad yma sydd o ddiddordeb arbennig i fi ac sy’n arbennig o berthnasol o ran dyfodol Caergybi, sef dyfodol ffiniau Iwerddon a dyfodol yr undeb tollau.

Petasai yna ffin galed yn cael ei chreu rhwng Caergybi a Dulyn, mi fuasai hi yn amlwg yn mynd yn llai deniadol i bobl deithio a gwneud busnes drwy Gaergybi. Rydym ni’n sôn, cofiwch, am dros 2 filiwn o deithwyr, 0.5 miliwn o geir, 400,000 o gerbydau cludo nwyddau. Fel y dywedodd tystion wrth y pwyllgor, mae’r broses o symud nwyddau wastad yn dilyn y llwybr hawsaf—y llwybr symlaf. Felly, mae pryder gwirioneddol pe buasai yna ffin feddal rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, a ffin galed rhwng Cymru a’r weriniaeth, byddai hynny’n negyddol i ni. Mi rybuddiodd Irish Ferries y gallai hynny gael goblygiadau economaidd difrifol ar borthladdoedd Cymru mewn cyflogaeth uniongyrchol ac anuniongyrchol.

Y bygythiad arall wedyn ydy os ydy Prydain yn gadael yr undeb tollau. Rydym ni wedi clywed eisoes, ers creu marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd, neu ei chwblhau, beth bynnag, yn 1993, a chael gwared ar y ‘checks’ tollau ar gerbydau rhwng Cymru ac Iwerddon, mae faint o nwyddau sy’n teithio rhwng Caergybi a Dulyn wedi cynyddu’n aruthrol—bron i 700 y cant ers dechrau’r 1990au. Rydw i am ddyfynnu pryderon dau o’r cwmnïau llongau mawr sy’n gweithredu o borthladd Caergybi—yn gyntaf, Paddy Walsh o Irish Ferries sy’n rhybuddio, ‘we’ cannot revert to pre-1993 Customs Procedures, where all import and export vehicles, would have to be cleared through Customs…. Not only have traffic volumes grown considerably, but the whole process of goods ordering and delivery has changed.’

Mae pobl rŵan yn archebu heddiw a disgwyl cael nwyddau yfory, heb iddyn nhw fod wedi eu storio mewn rhyw warysau anferth fel ers talwm. Nid ydy rhwystrau mewn porthladd yn ffitio i mewn i’r dull modern o fasnachu. Ian Davies, wedyn, o Stena Line Ports sy’n dweud yn glir bod twf masnach rhwng Caergybi ac Iwerddon wedi digwydd oherwydd polisïau o borthladdoedd agored. Mae yna gydbwysedd da iawn, meddai fo rŵan, rhwng nwyddau a theithwyr:

If you disturb one of those flows, you are disturbing the whole business model. And therefore the consequence, instead of having 28 sailings a day, you may end up with a lot less connectivity to Welsh ports.’

Mi fyddai hynny’n ddrwg iawn i ddyfodol Caergybi. Mi fuasai hefyd angen newid strwythur y porthladd petasai yna angen am ‘checks’ newydd. Yn syml iawn, yn ôl rheolwyr y porthladd, nid yw’r lle, nid ydy’r capasiti, ganddyn nhw bellach, ac mi oedd hyn yn un o gasgliadau’r pwyllgor hefyd, roeddwn yn falch iawn o’i weld. Yr hyn a ddywedwyd wrthyf i:

Government has to realise that we cannot magic up additional space in the port if it transpires that full customs border checks are required.

Yn ei dystiolaeth o i’r pwyllgor, hefyd, Ian Davies o Stena yn dweud:

We have some of the largest ferries in Europe coming in….The whole port would come to a grinding halt….It’s physically not possible to do it at the ports presently.’

Rydw i yn dod i ben. Rydw i’n falch bod y Llywodraeth yn derbyn mewn egwyddor argymhelliad y pwyllgor i amlinellu sut y maen nhw’n bwriadu mynd i’r afael â’r diffyg capasiti yma ym mhorthladdoedd Cymru, ond rydw i’n gobeithio yn fawr y cawn ni fwy o gig ar yr asgwrn gan yr Ysgrifennydd Cabinet er mwyn imi allu adrodd yn ôl i reolwyr a staff y porthladd. Rydym ni’n wynebu cyfres o heriau yn y fan hyn. Nid hanes balch ond dyfodol hyderus a ffyniannus rydw i eisiau’i weld i borthladd Caergybi.