Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 11 Hydref 2017.
Diolch, Cadeirydd, fe ddof â hwy i ben. Y pwynt olaf yw porthladdoedd rhydd—rwy’n credu bod hwnnw’n gysyniad diddorol iawn. Rwy’n falch iawn fod y pwyllgor yn awyddus i ymchwilio i hyn ac mae gennyf ddiddordeb mewn clywed yr hyn sydd gan Weinidog yr economi i’w ddweud am y porthladdoedd rhydd gan fod hwnnw’n gyfle y gallai Brexit ei gyflwyno. Diolch.