Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 11 Hydref 2017.
Diolch, Cadeirydd. Rwyf wrth fy modd yn dilyn Simon Thomas, mae ei areithiau bob amser yn llawn gwybodaeth ac yn ddiddorol, ac nid yw heddiw’n eithriad. Cymeradwyaf yn gynnes yr hyn a ddywedodd am y cyfle y bydd gadael yr undeb tollau yn ei roi inni o ran porthladdoedd rhydd.
Diolch i Eluned Morgan nid yn unig am y cyhoeddusrwydd ychwanegol drwy fy enwi yn ei haraith, ond hefyd am ddod â safbwynt Gweriniaeth Iwerddon i’r blaen yn y ddadl hon. Dyma adroddiad ardderchog gan y pwyllgor, rwy’n meddwl, am ei fod yn deg iawn ac yn gytbwys, ond mae’n tynnu sylw at rai problemau pontio a allai fod yn ddifrifol yn sgil penderfyniad Prydain i adael yr UE. Cymeradwyaf David Rees, fel Cadeirydd y pwyllgor, am fod yn batrwm o amhleidioldeb pleidiol, os caf ei roi felly, ac am wneud cyfraniad go iawn i’r ddadl hon yn fwy cyffredinol. Oherwydd, os na cheir cytundeb gyda’r UE, mae hwn yn fater difrifol iawn i Weriniaeth Iwerddon yn ogystal â Chymru—yn llawer mwy difrifol, efallai, i Weriniaeth Iwerddon, nag i ni, gan fod 50 y cant o allforion Iwerddon yn dod i Brydain. Mae 90 y cant o olew a nwy Iwerddon yn dod o Brydain, trwy Aberdaugleddau, i raddau helaeth iawn. Allforir gwerth £15 biliwn o nwyddau i’r DU. Mae hanner allforion cig eidion Gweriniaeth Iwerddon yn dod i Brydain, a 42 y cant o’i holl allforion bwyd a diod. Mae 50 y cant o gludwyr nwyddau Iwerddon yn gwasanaethu gwledydd cyfandir Ewrop dros bont dir y Deyrnas Unedig, ac mae 30 y cant o’r traffig yn nwyddau wedi’u hoeri. Felly, o ystyried yr oedi a fuasai’n anochel o ganlyniad i geisio dod o hyd i lwybrau eraill o’r porthladdoedd a ddefnyddir ar hyn o bryd, ceir risgiau difrifol iawn i Weriniaeth Iwerddon, sy’n ei gwneud hi’n fwy o syndod byth o bosibl fod y Comisiwn Ewropeaidd mor anhyblyg yn y trafodaethau hyn. A yw’r Gwyddelod yn mynd i’w chael hi’n well na’r Groegiaid ym meddyliau’r Comisiwn Ewropeaidd, Monsieur Barnier a Monsieur Juncker a’u cydweithwyr?
Nid wyf erioed wedi bod o dan unrhyw gamargraff ynglŷn â’r trafodaethau hyn mewn gwirionedd oherwydd bod yr UE, ar ôl bod yn brosiect gwleidyddol yn hytrach nag un economaidd o’r cychwyn cyntaf, er gwaethaf y ffaith mai’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd oedd ei henw’n wreiddiol—yr hyn sy’n amlwg yn flaenllaw ym meddyliau’r negodwyr ar ran yr UE yw’r cyrchfan a welant yn y pen draw, sef gwladwriaethau ffederal Ewrop, na chefnogodd neb ym Mhrydain mohono erioed, ac ni ofynnwyd i neb erioed mewn unrhyw ran arall o Ewrop. Iddynt hwy, pris bach i’w dalu yw gwledydd bach er mwyn cyflawni eu hamcanion gwleidyddol cyfandirol mawreddog. Felly, credaf y dylid gresynu at y ffaith bod y Llywodraeth heb gychwyn ar y trafodaethau hyn yn disgwyl methu, ac felly wedi gwastraffu’r naw mis neu flwyddyn ddiwethaf pan allai fod wedi bod yn gwneud paratoadau i ymdrin â’r problemau ymarferol difrifol iawn y cyfeiriwyd atynt yn y ddadl hon, ac sy’n sicr yn galw am eu datrys ar fyrder—neu mae angen eu datrys ar fyrder os na cheir cytundeb—dros yr ychydig fisoedd nesaf.
Rwy’n credu bod y datblygiadau technolegol y cyfeiriodd Mark Isherwood atynt yn ei araith yn cynnig ateb rhannol i’r broblem, ac yn sicr, maent yn lliniaru’r anawsterau a fydd yn codi, ac mae profiad gwledydd eraill, fel Canada, y Swistir, Norwy, Sweden—mae gan yr Almaen, yn wir, drefniadau tebyg drwy’r systemau gweithredwyr economaidd awdurdodedig, a grybwyllwyd yn yr adroddiad. Ond yn bersonol rwy’n credu bod pob rheswm dros gredu, os yw aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd yn barod i roi pwysau ar y Comisiwn, gellid dod i gytundeb. Yr hyn sydd bob amser wedi fy rhyfeddu yw pa mor ddiymadferth yw’r aelod-wladwriaethau wrth wynebu’r ymgyrch tuag at undeb ffederal gan y Comisiwn pan fo’n bygwth eu buddiannau cenedlaethol domestig eu hunain—mewn rhai achosion, yn achos gwledydd de Ewrop, yn ddramatig tu hwnt yn wir. Nid wyf am weld Gweriniaeth Iwerddon yn dioddef o ganlyniad i Brexit fwy nag wyf fi am weld Prydain yn dioddef o ganlyniad i Brexit. Dylem gael y cysylltiadau agosaf posibl gyda’n cymdogion daearyddol, nid yn lleiaf oherwydd yr angen i gynnal y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon. Rwy’n credu y byddai’n drosedd pe bai’r Undeb Ewropeaidd, drwy ei anhyblygrwydd, yn peryglu hynny i gyd, ond mae hynny’n sicr yn bosibilrwydd.
Rwy’n credu bod yr adroddiad hwn yn cynnig y ffordd ymlaen yn ymarferol i ymdrin â’r problemau hyn, ac edrychaf ymlaen at glywed eglurhad Ysgrifennydd y Cabinet o’r gwahanol gwestiynau y mae’n eu codi a’r feirniadaeth a wnaed yn yr adroddiad.