Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 11 Hydref 2017.
Ardderchog. Hoffwn ddiolch i’r Cadeirydd ac aelodau’r pwyllgor am eu hymchwiliad ac am eu hadroddiad. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud bod porthladdoedd Cymru ar hyn o bryd yn gwneud yn well na’r disgwyl gyda thros 11 y cant o gyfanswm y nwyddau a gludir drwy’r DU yn cael eu trin gan borthladdoedd Cymru a thros 70 y cant o’r cargo i ac o Iwerddon, Prydain Fawr a’r UE ehangach yn pasio trwy borthladdoedd yng Nghymru. Felly, mae’n amlwg fod y sector eisoes yn gwneud cyfraniad mawr tuag at ein huchelgais o greu Cymru unedig, gysylltiedig, gynaliadwy, a mwy ffyniannus hefyd.
Mae hwn yn amser pwysig inni wrth inni edrych ymlaen at ddatganoli swyddogaethau sy’n gysylltiedig â phorthladdoedd o dan Ddeddf Cymru y flwyddyn nesaf, yn ystod ein Blwyddyn y Môr. Daw datganoli â chontract newydd rhwng y sector a Llywodraeth Cymru, a bydd y berthynas estynedig honno’n ein galluogi i weithio gyda’n gilydd i fanteisio ar y cyfleoedd sydd o’n blaenau.
Mae porthladdoedd yng Nghymru wedi cael llwyddiant mawr gydag amgylchedd masnach a’r farchnad. Rwy’n credu ei bod yn hanfodol cynnal yr amgylchedd hwnnw. Rwyf am sicrhau bod yr amodau cywir ar waith i alluogi porthladdoedd i gyflawni hyd yn oed mwy o lwyddiant, ond rhaid inni gydnabod yr ansicrwydd sydd o’n blaenau yn dilyn y penderfyniad i adael i’r UE. Mae hyn yn creu heriau unigryw.
Yn ein Papur Gwyn, rydym wedi nodi’n glir beth yw ein blaenoriaethau ar gyfer Brexit, gan gynnwys pwysigrwydd hanfodol osgoi tarfu ar ein masnach. Rydym hefyd wedi pwysleisio y byddai unrhyw newidiadau i reolau mudo a/neu reolau tollau yn cael effaith uniongyrchol a phwysig ym mhorthladdoedd Cymru, ac mae adroddiad y pwyllgor yn tynnu sylw at ddifrifoldeb yr effeithiau posibl hyn.
Yr allwedd i reoli’r bygythiadau a’r cyfleoedd hyn yw sicrhau ymgysylltiad agos a chydweithredol rhwng yr holl bartïon perthnasol, ac rwy’n falch o fod wedi derbyn holl argymhellion y pwyllgor, naill ai’n llawn neu mewn egwyddor.
Y thema gyffredin sy’n cysylltu pob argymhelliad yw’r angen i weithio mewn partneriaeth, boed tuag at sicrhau nad yw trefniadau tollau’n anfanteisio porthladdoedd Cymru neu tuag at ystyried datrysiad TG. Bydd y dull hwn yn ein galluogi i hyrwyddo a diogelu cyfleoedd economaidd morol a chynyddu ffyniant trwy Gymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn bod yn rhagweithiol yn y maes hwn. Yn ogystal â’r fforymau ymgysylltu sefydledig sy’n bodoli eisoes rhwng Llywodraethau, busnesau a’r sector, rydym wedi gofyn i Lywodraeth y DU sicrhau eu bod yn ymgysylltu â ni, gyda phorthladdoedd Cymru, a chyda busnesau perthnasol ar faterion tollau.
Mae’r dull hwn, sy’n cael ei gefnogi’n llawn gan grŵp porthladdoedd Cymru, yn ein galluogi i ddeall effaith ymarferol y trefniadau tollau newydd yng Nghymru, o ran porthladdoedd ac o ran y goblygiadau economaidd ehangach i fusnesau yng Nghymru. Wedyn, gallwn benderfynu, cyn gynted ag y bo modd, ar y cyfuniad cywir o atebion sydd eu hangen i sicrhau masnach mor ddi-ffwdan ag y bo modd. Ein prif flaenoriaeth yn y gofod hwn a gadwyd yn ôl yw gweithio gyda phorthladdoedd yng Nghymru i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU i symud tuag at y trefniadau tollau a thariffau mwyaf buddiol a fydd yn darparu twf i’n porthladdoedd a’r economi ehangach yn ogystal â gwella gweithgaredd masnachol ledled Cymru.
Byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â’r sector ar y bygythiadau a’r cyfleoedd a allai effeithio ar ein gallu i ddiogelu a gwella rôl porthladdoedd yn dilyn Brexit, a byddwn yn parhau i bwysleisio wrth Lywodraeth y DU yr angen i sicrhau nad yw porthladdoedd Cymru dan anfantais annheg o ganlyniad i unrhyw drefniadau ffiniau gwahanol posibl, fel yr argymhellwyd yn adroddiad y pwyllgor.
Fel yr argymhellwyd yn yr adroddiad, byddwn hefyd yn parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid eraill megis Llywodraeth Iwerddon i asesu goblygiadau Brexit ac i archwilio heriau a chyfleoedd i’r ddwy ochr, ac rwy’n falch o fod wedi cael cyfle i ymwneud yn bersonol â Shane Ross, fy swyddog cyfatebol ar draws y dŵr, i drafod cynllunio ar gyfer perthynas ar ôl Brexit. Mae Cymru yn darparu cyswllt strategol ag Iwerddon i weddill y DU a thir mawr Ewrop. Bydd sicrhau bod y cyswllt hwnnw’n cael ei gynnal o fudd i bob parti, fel y nododd yr Aelodau’n gywir.
Ers cyhoeddi adroddiad y pwyllgor, mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei dull a ffafrir o symleiddio trefniadau tollau ar ôl Brexit a ddoe cyhoeddodd Bapur Gwyn ar dollau ynghyd â Phapur Gwyn ar fasnach. Mae’r Papur Gwyn ar dollau’n nodi cynlluniau i ddeddfu ar gyfer cyfundrefnau tollau, TAW ac ecséis annibynnol y bydd eu hangen ar y DU ar ôl iddi adael yr UE, yn ogystal â manylion y cynlluniau wrth gefn rhag ofn y ceir ‘dim bargen’. Mae’r sylwadau cryf a wnaethom ni a diwydiant mewn perthynas â masnach ddi-ffwdan wedi eu clywed, rwy’n meddwl, ond mae sut y bydd hynny’n gweithio’n ymarferol yn parhau i fod yn aneglur, yn enwedig os ceir ‘dim bargen’, ac mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth o hyd i ddod i gytundeb gyda’r UE. Yn syml iawn, ni all busnes fforddio wynebu unrhyw risg o oedi gormodol neu weinyddu ar gyfer gwiriadau tollau newydd. Rydym mewn perygl o weld masnach bwysig yn cael ei cholli i borthladdoedd yn yr Alban a gogledd Lloegr, ac mae llawer o’r nwyddau sy’n croesi o Iwerddon i Gaergybi yn ddarfodus ac maent i’r cyfeiriad arall, felly bydd unrhyw oedi—unrhyw oedi hir—yn drychinebus. Rwy’n cydnabod bod y papur i’w weld yn mynd i’r afael â chwestiwn ffin feddal a chaled a’r niwed posibl i borthladdoedd Cymru drwy bwysleisio na all yr ateb i osgoi ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon olygu gosod ffin dollau newydd rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr. Ond unwaith eto, mae sut y bydd hynny’n gweithio’n ymarferol yn parhau i fod yn aneglur, ac rwy’n poeni bod Papur Gwyn y Bil tollau yn ei hanfod yn cynnig cyflwyno trefniadau manwl drwy is-ddeddfwriaeth.
Fel y mae nifer o’r Aelodau wedi nodi, mae’r Papur Gwyn hefyd yn rhoi llawer o ymddiriedaeth mewn technoleg i ddarparu’r ateb i fasnach ddi-ffwdan. Efallai’n wir y gwnaiff hynny, ond rwy’n credu bod dull o weithredu risg uchel yma, nad yw’n gadael unrhyw le i gamgymeriadau neu oedi mewn maes lle nad yw hanes blaenorol Llywodraeth y DU yn dda. Ar ben hynny, nid yw manylion y datrysiad TG arfaethedig wedi cael eu datgelu’n llawn, ac felly mae’n ei gwneud hi’n amhosibl asesu’n gywir beth yw’r gost ar hyn o bryd.
Dirprwy Lywydd Dros Dro, gallaf sicrhau’r Aelodau y byddwn yn ystyried ac yn ymgysylltu ar fanylion pellach drwy’r ddau Bapur Gwyn ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad wrth i ddatblygiadau fynd yn eu blaenau. O ran y pwynt ynglŷn â phorthladdoedd rhydd, hoffwn ddweud nad yw ardaloedd o’r fath wedi eu cyfyngu’n ffisegol i borthladdoedd, ond rydym yn ymgysylltu’n rhagweithiol â’r sector ac â phorthladdoedd unigol ar botensial ardaloedd rhydd, a byddwn yn ceisio dylanwadu ar safbwynt Llywodraeth y DU wrth i’r sefyllfa honno ddod yn glir.