Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 11 Hydref 2017.
Diolch, Gadeirydd. Rwy’n falch o gynnig y cynnig ger eich bron heddiw. Cyn i mi ddechrau mewn gwleidyddiaeth, roeddwn yn berchennog busnes bach, yn gweithredu busnesau ar y stryd fawr ym Mhen-y-bont yr Ogwr a Phorthcawl, a chefais brofiad personol o’r heriau sy’n wynebu busnesau ar ein strydoedd mawr. Mae’r cynnig a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelodau a minnau yn ceisio lliniaru rhai o’r heriau hyn. Galwn ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar ardrethi busnes fel ateb tymor hwy ac i gyflwyno rhyddhad ardrethi gwell i fusnesau bach yn y tymor byr. Bydd hyn yn chwistrellu cymorth mawr ei angen i fanwerthwyr annibynnol bach sy’n cael trafferth, yn enwedig y rhai sy’n gweithredu ar ein strydoedd mawr.
Fel y mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn datgan yn eu maniffesto ar gyfer 2017, mae manwerthwyr annibynnol bach yn gwneud cyfraniad unigryw ac anhepgor i gymeriad ein strydoedd yn ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi. Maent yn hanfodol i economïau lleol ar hyd a lled y wlad. Mae cyfran lawer uwch o refeniw yn cael ei ailgylchu i mewn i’r gymuned leol trwy fusnesau bach na thrwy fusnesau eraill yn lleol. Heb siopau annibynnol bach, mae ein strydoedd mawr mewn perygl o ddod naill ai’n gregyn gwag neu’n fersiynau llai o’r parciau manwerthu ar gyrion y dref. Os ydym am gadw cymeriad ein strydoedd mawr, o Ben-y-bont ar Ogwr i Fangor, o Gei Connah i’r Bont-faen, mae’n rhaid i ni weithredu yn awr.
Mae un o bob wyth uned fanwerthu ar hyn o bryd yn wag, a chydag economi Cymru’n llusgo ar ôl gwledydd eraill y DU nid yw’r rhagolygon ar gyfer y stryd fawr yn wych. Mae manwerthwyr y stryd fawr yn cael trafferth gyda rhenti ac ardrethi busnes cynyddol, ar yr un pryd ag wynebu cystadleuaeth gynyddol gan fanwerthwyr ar-lein ac ar gyrion y dref sydd â chostau llawer is. Mae’n rhaid i ni sicrhau chwarae teg, ac mae’r rhan fwyaf o fusnesau bach a manwerthwyr annibynnol bach am weld camau’n cael eu rhoi ar waith ar ardrethi busnes.
Mae ardrethi busnes, fel y’u cyfansoddir ar hyn o bryd, yn eu hanfod yn annheg gan nad oes unrhyw berthynas rhyngddynt a phroffidioldeb busnes. Tâl yn seiliedig ar rent yr eiddo ydynt, ac fel y mae llawer o fanwerthwyr bach ar y stryd fawr wedi ei brofi er anfantais iddynt, nid ydynt yn adlewyrchu trosiant nac elw’r busnes. Nid oes dewis gan fanwerthwyr sy’n dymuno aros ar y stryd fawr ond ysgwyddo’r gost ychwanegol. Gallant symud, fel y mae rhai Gweinidogion wedi awgrymu yn y gorffennol. Felly, mae’n hanfodol i oroesiad ein strydoedd mawr ein bod yn cael treth decach yn seiliedig ar y gallu i dalu yn lle’r system ardrethi busnes bresennol.
Cefnogir hyn gan y Ffederasiwn Busnesau Bach a chonsortiwm manwerthu Cymru. Mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn datgan bod y system ardrethi annomestig, fel y mae, yn dreth annheg ac anflaengar nad yw’n ystyried gallu cwmni i dalu. Mae’n rhaid i fusnes dalu £1 mewn ardrethi busnes cyn iddo ennill £1 mewn trosiant, heb sôn am £1 mewn elw. Nid yw’r system hon yn addas at y diben mwyach ac nid yw’n ystyried natur newidiol rhedeg busnes. Mae treth sy’n seiliedig ar eiddo, o ran ei natur, yn targedu busnesau’n annheg mewn lleoliadau dethol, megis strydoedd mawr. Pentyrru gofid yn unig a wna ailbrisiadau anaml, gan waethygu treth eiddo sydd eisoes yn llusgo ar ôl y cylch economaidd. Rydym yn cytuno.
Yn ôl consortiwm manwerthu Cymru, mae manwerthwyr Cymru am weld ardrethi busnes yn cael eu diwygio’n sylfaenol i bawb, boed yn fusnesau bach, canolig neu fawr eu maint. Yr hyn sy’n gwbl glir yw nad yw’r system bresennol yn addas at y diben. Mae’n rhwystro buddsoddiad ac yn arwain at gau siopau a cholli swyddi. Rydym yn deall na all hyn ddigwydd dros nos. Dyma pam yr ydym yn cynnig system interim o ryddhad ardrethi a fydd yn golygu na fydd busnesau sydd â gwerth ardrethol o dan £15,000 yn talu ardrethi busnes o gwbl, a gostyngiad o 20 y cant i fusnesau sy’n werth rhwng £15,000 a £20,000.
Er mai ardrethi busnes yw’r rhwystr mwyaf i oroesiad busnesau ar y stryd fawr, nid hwy yw’r unig un. Mae ein strydoedd mawr yn wynebu cystadleuaeth galed gan fanwerthwyr ar-lein ac ar gyrion y dref. Rwy’n credu mewn marchnad rydd ond yma nid oes gennym chwarae teg, ac felly mae’r ods wedi eu pentyrru yn erbyn busnesau stryd fawr mewn mwy nag un ffordd. Mae datblygiadau ar gyrion y dref yn elwa o ddatblygiadau parcio am ddim ac nid yw’r meysydd parcio hynny wedi eu cynnwys yn y prisiad ardrethi busnes. Er mwyn cael mwy o chwarae teg, rydym yn cynnig y dylid cynnig parcio am ddim am o leiaf un awr mewn meysydd parcio ynghanol y dref a chanol y ddinas. Rydym yn credu y bydd hyn yn annog masnach yn lleol.
Nid Llywodraeth Cymru’n unig sydd i gymryd camau i achub ein strydoedd mawr. Mae gan Lywodraeth y DU ran i’w chwarae. Mae’n rhaid iddynt greu’r sefydlogrwydd economaidd sydd ei angen arnom er mwyn i’r stryd fawr oroesi. Mae angen iddynt edrych hefyd ar drethiant busnes. Hoffwn i Lywodraeth y DU adolygu’r dreth ar werth pan gaiff Brexit ei wireddu. Mae angen codi’r trothwy TAW o £85,000 ar hyn o bryd, a chyflwyno system fwy graddoledig. Ond yn anad dim, mae gan y cyhoedd yng Nghymru ran i’w chwarae hefyd. Dylai pawb ohonom flaenoriaethu manwerthwyr annibynnol—pan allwn wneud hynny—sy’n cynnig nwyddau a gwasanaethau o’r gwerth uchaf yn aml iawn. I aralleirio araith arweinydd y Blaid Lafur i’w cynhadledd, mae’n fater o’i ddefnyddio neu ei golli. Os yw’r cyhoedd yng Nghymru yn gweld gwerth y stryd fawr, mae’n rhaid iddynt ddefnyddio’r stryd fawr. Mewn ychydig llai nag wyth wythnos, fe fydd hi’n Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach, ac mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach unwaith eto wedi lansio’r addewid £10, lle y maent yn annog cymaint o bobl â phosibl i addo y byddant yn gwario o leiaf £10 gyda busnes lleol, busnes bach, ddydd Sadwrn 2 Ragfyr. Rwyf wedi derbyn yr addewid hwnnw, fel y gwneuthum y llynedd a’r blynyddoedd cyn hynny, a byddaf yn cefnogi Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ac rwy’n annog pawb yma i wneud yr un peth.
Rwy’n annog pawb sy’n gwylio’r ddadl hon i dderbyn yr addewid. Mae cefnogi busnesau bach ein strydoedd mawr yn sicrhau bod gennym economi leol amrywiol a bywiog. Trwy ostwng y trothwy ar gyfer TAW, gallwn gyflogi mwy o bobl, ac yna bydd yr economi yn tyfu ymhellach. Rwy’n gofyn i chi ddangos eich cefnogaeth i’r stryd fawr yng Nghymru drwy gefnogi’r cynnig ger eich bron. Diolch yn fawr.