7. 7. Dadl UKIP Cymru: Ardrethi Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 11 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 4:51, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro—rwy’n credu y byddai Cadeirydd yn haws yn ôl pob tebyg. Rwy’n falch o gynnig y gwelliannau heddiw yn enw Paul Davies.

A gaf fi yn gyntaf groesawu parodrwydd Llywodraeth y DU i ddatganoli ardrethi busnes i Lywodraeth Cymru? Yn sicr, rydym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod hwnnw’n gam i’r cyfeiriad iawn. Oedd, roedd gennym rywfaint o reolaeth dros ardrethi busnes cyn hynny, ond mae datganoli ardrethi busnes yn llawn, yn ein barn ni, yn dod â chyfle gwirioneddol i Lywodraeth Cymru weithredu yn y maes hwn—offeryn arall yn y blwch offer economaidd, fel yr oedd y Prif Weinidog a rhagflaenydd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn awyddus i’w alw. Mae cael yr offeryn yn un peth, a’i ddefnyddio i wella’r gyfundrefn ardrethi busnes yn fater arall, a dyma ble y teimlwn nad yw gwelliant y Llywodraeth yn dderbyniol i ni. Mae nifer o elfennau yng ngwelliant y Llywodraeth na fuasem yn anghytuno â hwy. Yn sicr, pwysigrwydd busnesau bach—wrth reswm; nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yn sefyll yn y Siambr hon i ddweud nad yw busnesau bach yn hanfodol bwysig i economi Cymru, fel y mae Caroline Jones yn wir newydd ei wneud yn glir.

Mae pwysigrwydd hanfodol gweithio ar draws y Llywodraeth yn rhan allweddol o welliant y Llywodraeth hefyd, ac mae hynny i’w groesawu. Yn y ddadl flaenorol, clywsom am bwysigrwydd Llywodraethau’n gweithio gyda’i gilydd. Mae arnom angen fframwaith cydgysylltiedig rhwng Llywodraethau, a Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn enwedig yn y cyfnod sy’n arwain at Brexit, yn ystod y trafodaethau Brexit, y gwn fod llawer o’r Aelodau, gan fy nghynnwys i, yn bryderus yn eu cylch.

Fodd bynnag, dyna ble’r ydym yn gwahanu, ni fydd yn syndod i chi glywed. Nid ydym yn credu bod gwelliant Llafur yn pwysleisio’r brys i fynd i’r afael â’r sefyllfa a rhoi’r gefnogaeth y maent yn crefu amdani, ac y maent wedi bod yn crefu amdani ers peth amser, i fusnesau ledled Cymru. Felly, fel y mae ein gwelliant, gwelliant 5, yn egluro, mae angen i ni weld mwy o fusnesau’n cael eu heithrio rhag gorfod talu ardrethi busnes yn gyfan gwbl, a busnesau bach sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000 yn benodol yn cael eu tynnu allan o hynny. Rydym yn cytuno gyda rhan fawr o gynnig UKIP yn y maes hwn, mewn gwirionedd. Rydym yn anghytuno ar rai o’r manylion, ond rydych hefyd wedi cydnabod yn fras pa mor bwysig yw tynnu’r baich hwnnw oddi ar fusnesau. Byddem hefyd yn cael gwared ar y lluosydd, fel y mae’r gwelliant yn nodi. Gallwn wneud hynny bellach wrth i ardrethi busnes gael eu datganoli’n llawn. Wrth gwrs, mae hyn i gyd wedi ei gynllunio i gynyddu cystadleurwydd a gwella’r economi; ymwneud â hynny y mae hyn i gyd.

Mae’n hawdd iawn sefyll yn y Siambr hon a siarad am ystadegau fel pe baem mewn rhyw fath o wactod, a gallaf daflu ystadegau at y Siambr a bydd y Gweinidog yn eu taflu’n ôl, ond rwy’n aml yn teimlo nad ydym yn mynd i wraidd y dadleuon drwy wneud hynny. Fel cymaint o’r dadleuon yn y Siambr hon, mae hyn yn ymwneud â gwella bywydau pobl allan yno, cefnogi busnesau, gwella bywydau pobl, helpu mwy o bobl i gynnal eu hunain. Yn sicr, dyna pam rwyf fi yma, ac rwy’n siŵr mai dyna pam y mae Aelodau Cynulliad eraill yma hefyd. Felly, gadewch i ni gofio’r effaith a gafodd yr ailbrisio diweddar ar fusnesau ledled Cymru. Nid anghofiaf i, gan fy mod wedi cael fy moddi, fel y cafodd llawer o Aelodau’r Cynulliad rwy’n siŵr, gan ohebiaeth, galwadau ffôn a negeseuon e-bost gan bobl a oedd yn poeni’n wirioneddol am yr effaith y byddai’r newidiadau i’r ailbrisio yn ei chael ar eu busnesau. Wrth gwrs, nid ailbrisiad Llywodraeth Cymru oedd hwn; roedd yr ailbrisio’n digwydd ar draws y sbectrwm, ar draws y DU. Felly, rydym yn cydnabod nad bai Llywodraeth Cymru oedd yr angen i gael ailbrisiad, wrth gwrs—mae’n rhan angenrheidiol o’r cylch economaidd a’r cylch busnes ac roedd yn rhaid mynd i’r afael â hynny. Ond roedd y ffordd yr ymdriniwyd â’r ailbrisio a’r ffordd y cafodd ei gyfathrebu i bobl ledled Cymru yn peri pryder i ni.

Fel y dywedais, cefais lawer o sylwadau ac mewn gwirionedd, yn anffodus—archwiliais hyn yn ddiweddar—mae un neu ddau o’r busnesau y cysylltodd eu perchnogion â mi eisoes wedi mynd—maent yn wag, mae byrddau ar y ffenestri. Credaf fod hynny wedi crisialu’n glir i mi pam yr oeddwn yn ymwneud â deiseb ar y pryd a pham yr oeddwn eisiau helpu’r perchnogion busnes hynny. Felly, nid codi bwganod oedd hynny, fel y mae rhai ohonom yn aml yn cael ein cyhuddo o wneud, nid gwneud llawer o sŵn am ddim rheswm—mae canlyniadau gwirioneddol yr ailbrisiad a’r diffyg cefnogaeth briodol i fusnesau eisoes wedi cael effaith.

Am ein gwelliant olaf—dylai fod mwy o gefnogaeth i gynlluniau peilot parcio am ddim—credaf y dylai’r Llywodraeth allu—wel, rwy’n tybio y dylech allu—cefnogi hyn, gan fy mod yn gwybod eich bod eisoes wedi rhoi rhywfaint o gefnogaeth i ymestyn cynlluniau peilot ledled Cymru ar gyfer parcio. Yr hyn a ddywedwn yn syml yw ein bod yn credu bod hynny’n beth da ac y dylid ei wella. Felly, byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig er mwyn cael ein gwelliannau ar y papur, ond mae llawer o bethau da yn y cynnig hwn ac rwy’n falch fod UKIP wedi ei gyflwyno i’r Siambr heddiw, ac rwy’n gobeithio y bydd cefnogaeth i’n gwelliannau.