Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 11 Hydref 2017.
Wel, rwy’n croesawu’r cyfle i ymateb i’r ddadl hon, ac mae’n adeg bwysig i ddatblygu polisi mewn perthynas ag ardrethi annomestig. Rwy’n cydnabod y profiad sydd gennym ni yma yn y Siambr, yn ogystal â’r safbwyntiau polisi a fynegwyd heddiw.
Mae ardrethi annomestig yn cyfrannu dros £1 biliwn y flwyddyn i ariannu gwasanaethau lleol hanfodol yng Nghymru ac ailddosberthir yr holl refeniw ardrethi a gesglir yng Nghymru yn llawn i awdurdodau lleol a chomisiynwyr heddlu a throseddu yma yng Nghymru i gefnogi’r gwasanaethau hyn. Rydym yn talu trethi oherwydd bod pawb ohonom yn cael y manteision cyfunol o wneud hynny. Y gwasanaethau lleol y mae ardrethi annomestig yn eu cynnal yw’r union rai y mae busnesau eu hangen er mwyn llwyddo. Er mwyn cynnal y gwasanaethau hyn, mae’n iawn fod pawb sy’n gallu yn cyfrannu eu cyfran deg.
Mae ardrethi annomestig yn gymwys i’r rhan fwyaf o fathau o eiddo annomestig, gan gynnwys meysydd parcio a pharciau manwerthu ar gyrion y dref. Nid i fusnesau’n unig y maent yn berthnasol. Maent yn berthnasol i eiddo a ddefnyddir gan y sector cyhoeddus, wrth gwrs, a sefydliadau dielw. Cynlluniwyd y system ardrethi yn benodol i fod yn dreth ar eiddo er mwyn codi refeniw ar gyfer gwasanaethau lleol. Nid yw’n dreth ar drosiant neu elw; mae’r rhain yn ddarostyngedig i fathau eraill o drethi a godir gan Lywodraeth y DU ac a ddefnyddir at ddibenion eraill.
Mae Nick Ramsay wedi ein hatgoffa mai Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy’n cynnal prisiadau eiddo. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Mae’n pennu’r fethodoleg ar gyfer prisio eiddo ac yn cymhwyso’r un fethodoleg ar draws y wlad, gan roi ystyriaeth i amodau’r farchnad eiddo yn lleol.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw pob talwr ardrethi â’r un gallu i dalu, yn enwedig busnesau bach, lle y gall yr ardrethi fod yn gyfran uwch o’u costau cyffredinol. Dyna pam ein bod yn darparu dros £200 miliwn o gymorth ariannol fel rhyddhad ardrethi yn y flwyddyn ariannol hon, 2017-18, ac mae hwn yn cynorthwyo mwy na thri chwarter yr holl dalwyr ardrethi. Mae dros £100 miliwn i’r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach eisoes yn cefnogi bron i 70 y cant o fusnesau yng Nghymru, ac nid yw dros hanner yr holl fusnesau cymwys yn talu unrhyw ardrethi o gwbl. Roedd y cynllun i fod i ddod i ben ar 31 Mawrth eleni, ond rydym wedi ei ymestyn ar gyfer 2017-18. Heb y cymorth hwn, byddai busnesau bach yng Nghymru yn wynebu biliau trethi uwch.
Rydym hefyd wedi gwneud ymrwymiad clir i roi cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach newydd parhaol ar waith o fis Ebrill 2018. Fel sydd wedi cael ei ddweud a’i gydnabod heddiw yn y Siambr hon—a pham ei fod mor amserol, wrth gwrs—rydym ar hyn o bryd yn ymgynghori ar gynigion ar gyfer y cynllun rhyddhad newydd, ac mae’r ymgynghoriad yn cau yn ddiweddarach yr wythnos hon. Rwy’n siŵr fod y sylwadau—rwy’n siŵr ein bod wedi eu gweld o’n hetholaethau a’n busnesau a’n cyrff, yn y cyfnod cyn y daw’r ymgynghoriad hwnnw i ben.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn bwysig. Mae’n gofyn am farn ar sut y gellid targedu’r rhyddhad yn well i gefnogi’r busnesau a fyddai’n elwa fwyaf a’r rhai a fyddai’n cyfrannu fwyaf at dwf economi Cymru a chynaliadwyedd ein cymunedau. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn ystyried sut y gellid datblygu’r cynllun parhaol i gefnogi amcanion ehangach Llywodraeth Cymru. Felly, mae’n edrych, er enghraifft, ar yr opsiwn o ddarparu rhyddhad ychwanegol i ddiwydiannau neu sectorau penodol, megis gofal plant. Wrth gwrs, mae angen sail dystiolaeth gadarn i ni ystyried yr opsiynau hynny.
Bydd y cynllun rhyddhad parhaol yn darparu sicrwydd a diogelwch i fusnesau bach, gan gyflwyno toriad treth a’u helpu i ysgogi twf economaidd hirdymor ar gyfer Cymru. Mae cyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach parhaol sydd wedi’i deilwra i anghenion penodol Cymru yn dangos yn glir y pwys a roddwn ar gefnogi busnesau bach drwy ostwng eu trethi annomestig.
Er bod y gwerth ardrethol cyffredinol yng Nghymru wedi gostwng, rwy’n cydnabod bod prisiadau wedi codi mewn rhai mannau ac ar gyfer rhai mathau o eiddo. Felly, mewn ymateb i ailbrisiad 2017, sefydlodd Llywodraeth Cymru gynllun rhyddhad trosiannol newydd gwerth £10 miliwn i helpu busnesau bach yr effeithir yn niweidiol ar eu hawl i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach. Mae’r cynllun rhyddhad yn darparu cymorth ychwanegol i dros 7,000 o dalwyr ardrethi, ac mae’r cynllun yn cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru. Ar y llaw arall, caiff rhyddhad trosiannol yn Lloegr ei ariannu gan dalwyr ardrethi a welodd ostyngiadau yn eu gwerthoedd ardrethol o ganlyniad i’r ailbrisio. I fod yn glir, mae’r rhyddhad i’r rhai y mae eu prisiadau wedi codi yn cael ei dalu gan y rhai y dylai eu biliau fod wedi lleihau.
Rydym wedi gwrando ar yr hyn y mae busnesau bach wedi bod yn dweud wrthym, yn enwedig manwerthwyr y stryd fawr. Wrth gwrs, mae rhai ohonom wedi bod yn cynrychioli etholwyr yr effeithiwyd arnynt yn fawr gan hyn, ac rydym yn sylweddoli bod yr ailbrisio wedi effeithio’n fwy ar rai trefi a chymunedau. Er bod llawer o strydoedd mawr ledled y wlad wedi gweld gostyngiad yn yr ardrethi, mae angen cymorth ychwanegol ar rai manwerthwyr yn fwy cyffredinol—gwnaed y pwyntiau hyn y prynhawn yma—oherwydd, er enghraifft, y gystadleuaeth gan dwf siopa ar-lein a siopau ar gyrion y dref. Dyna pam yr ydym wedi dyrannu £10 miliwn arall o gymorth ychwanegol i fanwerthwyr y stryd fawr, gan gynnwys siopau, caffis a thafarndai yn 2017-18. Unwaith eto, mae hyn yn cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru. I lawer o dalwyr ardrethi, yn enwedig y rhai nad oedd ond yn gymwys yn flaenorol ar gyfer rhyddhad ardrethi rhannol i fusnesau bach, mae’r rhyddhad ychwanegol hwn wedi lleihau eu dyled sy’n weddill i ddim.
Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leddfu’r pwysau ar fusnesau stryd fawr yr effeithir arnynt gan yr ailbrisio ac unwaith eto’n adlewyrchu pwysigrwydd ymgysylltu â’r Ffederasiwn Busnesau Bach i ddysgu ac i drafod y materion hyn. Rwy’n credu ei bod yn ddefnyddiol inni dynnu sylw at y ffyrdd yr ydym yn cefnogi ein busnesau bach a chanolig eu maint ar draws Cymru, yn enwedig y stryd fawr a’r cyfleoedd hynny. Lansiwyd y benthyciad i ficrofusnesau ym mis Hydref 2012 i roi cyfle, er enghraifft, i gefnogi busnesau gyda benthyciadau o rhwng £1,000 ac £20,000. Hyd yn hyn, mae’r gronfa fenthyciadau i ficrofusnesau Cymru wedi cefnogi 371 o fusnesau, gan fuddsoddi £9 miliwn yn uniongyrchol a denu dros £7.8 miliwn o gyllid sector preifat pellach. Mae’r gronfa wedi creu a diogelu 1,747 o swyddi hyd at ddiwedd mis Mawrth 2017. Weithiau, mae ystadegau’n ddefnyddiol, Nick Ramsay, i dynnu sylw at yr hyn a gyflawnwyd. Yn bwysig o ran adfywio, rydym hefyd wedi ariannu 20 o bartneriaethau canol y dref ar draws Cymru, ac yn ychwanegol at hyn, cronfa fenthyciadau canol y dref gwerth £20 miliwn.