Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 11 Hydref 2017.
Wel, rwy’n credu mai dyma pam y mae hi mor bwysig fod yr ymateb i’r ddadl hon heddiw a’r ymateb i’r ymgynghoriad yn cael eu hystyried yn llawn, ac rwy’n credu ei bod hi hefyd yn bwysig cofio—. Rwyf am wneud sylw ar y cynllun maes parcio—wrth gwrs, eich gwelliant 6 oedd hwnnw—ond hefyd y ffaith, fel y dywedoch, fod arian wedi cael ei ddyrannu i gefnogi mentrau peilot i brofi dichonoldeb ac effaith parcio ceir am ddim, gyda’r bwriad o gefnogi adfywio ein trefi a’n dinasoedd.