Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 11 Hydref 2017.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wel, rwy’n ddiolchgar i’r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, ac mae’n ymddangos bod UKIP i wedi cyflawni rhywbeth nad yw pobl fel arfer yn ei gysylltu â ni: y gallu i sicrhau consensws ac undod, ar yr ochr nad yw’n Llywodraeth i’r tŷ o leiaf. Rwyf mewn sefyllfa lle y gallwn fod wedi pleidleisio, mewn gwirionedd, dros welliant y Ceidwadwyr, neu welliant Plaid Cymru, oni bai am y ffaith y byddai hynny’n golygu dileu rhan o’n cynnig ein hunain. Rwy’n credu bod hon wedi bod, wel, yn un o nifer o ddadleuon rwyf wedi byw drwyddi yn ystod fy oes wleidyddol—go brin ei fod yn bwnc tragwyddol—ond, serch hynny, nid yw ei bwysigrwydd byth yn diflannu, a chafodd hynny ei ddangos yn glir yn yr areithiau a wnaed, o araith Caroline Jones ar ddechrau’r ddadl, yr holl ffordd at arweinydd y tŷ’n siarad. Mae rhethreg angerddol Adam Price bob amser yn fantais i’w chael ar eich ochr, a nododd beth yw’r diffyg sylfaenol mewn trethi eiddo, sef ei fod yn anachronistig ac yn yr achos penodol hwn, yn mynd yn ôl i Ddeddf y Tlodion 1601. Mae tir yn hawdd i’w drethu am ei fod yn sefydlog ac ni ellir ei guddio, ac mae’n dreth gyfleus i gasglwyr trethi, ond nid dyna’r ddadl orau y gallech ei gwneud fel arfer dros gael treth. Rydym wedi clywed gan bawb arall am y niwed y mae’r dreth hon yn ei wneud i’r busnesau mwyaf bywiog yn y tir, a sut y mae’n effeithio’n wael ar yr economi. Nododd Caroline Jones yn ei haraith agoriadol fod un o bob wyth uned fanwerthu yng Nghymru yn wag. Mae’n annheg ac yn anflaengar. Clywsom Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, yn siarad am y gyllideb a’r trethi newydd a gawn yn fuan iawn, ac yn cyfeirio at ba mor falch y mae o allu eu gwneud yn flaengar. Ond wrth gwrs, yn achos ardrethi busnes, y gwrthwyneb sy’n wir. Ni allaf ddeall pam fod yr awydd am flaengaredd mor fawr mewn trethi eraill y mae Llywodraeth Cymru â rheolaeth drostynt, ond yn gwbl absennol, fel y nododd Adam Price, yn achos ardrethi busnes.
Nawr, rwy’n sylweddoli bod y Llywodraeth am hysbysebu’r hyn y mae wedi ei wneud i leddfu’r problemau a achosir gan y system bresennol, ac rydym yn cydnabod hynny. Mae croeso i’w chynigion—y rhai dros dro a’r cynnig i gael ffurf fwy parhaol ar ryddhad—ond nid yw hynny’n mynd at wraidd y broblem. Yr hyn y dylem ei gael yw math o gomisiwn hollbleidiol i geisio ffurfio consensws barn ar sut i gael gwared ar y dreth hynafol hon, sy’n gwneud cymaint o ddifrod. Rwyf wedi byw drwy lawer o ailbrisiadau eiddo yn ystod fy oes—a rhai ohonynt yn llawer mwy dramatig na’r un yr ydym newydd ei brofi yma yng Nghymru—ac rwyf wedi byw drwy ymdrechion trychinebus i ddiwygio systemau trethi eiddo, yn enwedig treth y pen yn yr 1980au, a aeth â gormod o fy nosweithiau, yn y dyddiau hynny, yn Nhŷ’r Cyffredin. Nid yw’n broblem hawdd i’w datrys—rwy’n derbyn hynny’n llwyr—ond serch hynny, rwy’n meddwl y dylem o leiaf roi cynnig arni, ac—